Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cymru’n arwain y ffordd yn y frwydr yn erbyn masnachu mewn pobl

Mae Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, wedi penodi Robert Tooby yn Gydgysylltydd Atal Masnachu mewn Pobl cyntaf Cymru.
Dydd Iau 31 Mawrth 2011

Y swydd sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth y Cynulliad yw’r gyntaf o’i bath yn y DU, a bydd Mr Tooby, sydd wedi ymddeol fel Prif Uwcharolygydd Heddlu De Cymru, yn dechrau ar y swydd yn swyddogol ddydd Llun 4 Ebrill.

Fel Cydgysylltydd Atal Masnachu mewn Pobl, bydd prif ddyletswyddau Mr Tooby yn cynnwys cydlynu tystiolaeth ddiriaethol o faint y broblem yng Nghymru a chydlynu gwasanaethau a chymorth i’r rhai sy’n cael eu heffeithio.

Bydd y rôl hefyd yn dod â nifer o asiantaethau ynghyd, gan gynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol, darparwyr gwasanaethau iechyd a chyrff gwirfoddol i adnabod a chefnogi dioddefwyr a dod â’r rhai sy’n gyfrifol gerbron y llysoedd.

Erbyn hyn, y DU yw un o’r prif wledydd ar draws Ewrop sy’n cael ei thargedu ar gyfer masnachu mewn pobl. Gan ei bod hi’n broblem gudd i raddau helaeth, mae maint y troseddu a nifer y dioddefwyr yng Nghymru yn dal i fod yn anhysbys. Amcangyfrifodd adroddiad diweddar gan Gomisiynydd Plant Cymru fod tua 32 o blant wedi’u masnachu wedi dod i Gymru ac mae gwybodaeth gan yr heddlu’n dangos bod achosion masnachu ar gynnydd.

Dywedodd Carl Sargeant ei bod hi’n hanfodol creu darlun cywir i weld faint o fasnachu mewn pobl sy’n digwydd yng Nghymru er mwyn cefnogi dioddefwyr a thargedu’r troseddwyr cyfundrefnol sy’n gwneud y peth ofnadwy hwn.
Meddai’r Gweinidog:

 “Er na wyddon ni faint gwirioneddol problem masnachu dynol, rydym yn ymwybodol o achosion lle mae dioddefwyr wedi’u cludo i Gymru ac wedi cael eu gorfodi i wneud pethau na ellir mo’u dychmygu yn erbyn eu hewyllys.

“Mae ecsploetio pobl fel hyn yn ffiaidd ac mae gan Lywodraeth y Cynulliad ddyletswydd gofal i helpu dioddefwyr a rhoi cymorth i’r awdurdodau ddod â’r rhai sy’n gyfrifol gerbron y llysoedd. Mae arnom angen darlun llawer mwy eglur o’r hyn sy’n digwydd yma er mwyn penderfynu ar y ffordd orau o deilwra cymorth, gwasanaethau a phlismona er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn.

“Dyna’n union y bydd y swydd newydd hon yn ei wneud ac rwyf wrth fy modd y bydd Bob Tooby yn ymuno â ni am y 12 mis nesaf. Mae Bob yn dod â chyfoeth o brofiad perthnasol i’r swydd a hoffwn ei groesawu fel Cydgysylltydd Atal Masnachu mewn Pobl dros Gymru.”

Dywedodd Mr Tooby ei fod wrth ei fodd o gael ei benodi i’r swydd a’i fod yn edrych ymlaen at weithio gyda chymunedau a phartneriaid ledled y wlad er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.

Meddai:

“Masnachu mewn pobl ar ei holl ffurfiau yw’r math gwaethaf posibl o gaethwasiaeth ac ecsploetio pobl. Gan mai’r DU yw un o’r prif wledydd yn Ewrop sy’n cael ei thargedu ar gyfer y gweithgarwch troseddol hwn, mae’n gysur fod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod pa mor ddifrifol yw’r broblem a’i bod wedi creu’r swydd hon i fynd i’r afael â hyn.

“Cydweithio cydlynus yw’r unig ffordd o frwydro yn erbyn y broblem hon a bydd fy rôl i yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid fel yr heddlu, awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau iechyd er mwyn gwneud i hyn ddigwydd.”

Cafodd Mr Tooby ei groesawu i’r swydd gan Jeff Farrar, Dirprwy Brif Gwnstabl dros Dro Heddlu Gwent ac arweinydd Plismona Cymru Gyfan er mwyn Gwarchod Pobl Agored i Niwed a Masnachu mewn Pobl ac meddai:

“Mae’r penodiad hwn yn gam cadarnhaol ymlaen yn y frwydr yn erbyn masnachu mewn pobl yng Nghymru, a bydd cyfraniad Bob, ynghyd â swyddogion a staff eraill sydd eisoes yn eu lle, yn amhrisiadwy.

“Mae’r Heddluoedd ac asiantaethau partner yn dal wedi’u hymrwymo’n llawn i weithredu yn erbyn masnachu pobl. Mae’r gwaith yn parhau i roi cymorth i ddioddefwyr, a allai fod yn gyndyn o roi gwybodaeth am y drosedd, i ymwroli a dod atom ni, fel y gallwn gynnig y cymorth a’r diogelwch priodol iddyn nhw.

“Gyda’u help nhw gallwn greu darlun cywir o faint y broblem yng Nghymru a dod â’r rhai sy’n gyfrifol gerbron y llysoedd.”

Mae creu’r swydd hon yn cyflawni ymrwymiad i roi cymorth i ddioddefwyr masnachu mewn pobl o dan strategaeth ‘Yr Hawl i fod yn Ddiogel’ Llywodraeth Cynulliad Cymru.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Yr Hawl i fod yn Ddiogel

Tagiau

Cyfiawnder cymdeithasol 31 Mawrth 2011 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i