Mae “Cynllun Achub Naloxone yn y Cartref” yn cynnig pecynnau am ddim o Naloxone i ddefnyddwyr cyffuriau sydd mewn perygl o gymryd gorddos. Mae’r cyhoeddiad yn cael ei wneud mewn cynhadledd o dan ofal Prosiect Cyffuriau Abertawe am lwyddiant Naloxone fel antidôt (gwrthwenwyn) ar gyfer pobl sy’n gorddosio ar heroin.
Mae’r penderfyniad yn dilyn gwerthusiad o’r treialon sydd wedi’u cynnal dros y ddwy flynedd ddiwethaf mewn sawl ardal yng Nghymru.
Meddai’r Gweinidog,
“Mae tystiolaeth gref yn yr ardaloedd sydd wedi bod yn defnyddio Naloxone ei fod yn lleihau nifer y marwolaethau ynghyd â’r achosion o orddosio, a dyna pam mae Llywodraeth Cynulliad am roi’r fenter ar waith ledled y wlad.
“Mae camddefnyddio sylweddau yn cael effaith ddeifiol ar unigolion a’u teuluoedd a’u ffrindiau. Nod ein strategaeth 10 mlynedd ar gamddefnyddio sylweddau “Gweithio gyda’r Gilydd i Leihau Niwed”yw lleihau’r niwed sy’n cael ei achosi gan gyffuriau a helpu pobl i leihau eu dibyniaeth ar sylweddau trwy weithio gyda phartneriaid fel Prosiect Cyffuriau Abertawe.
“Rwy’n gobeithio y bydd ein cyhoeddiad heddiw am Gynllun Achub Naloxone yn y Cartref yn ein helpu i wireddu’n hymrwymiad i leihau’r nifer sy’n marw oherwydd cyffuriau yng Nghymru.”











