Dywedodd y Gweinidog yn y Cyfarfod Llawn:
"Ym mis Rhagfyr 2010, cyhoeddais benderfyniad i gynnal adolygiad annibynnol o faterion amserlenni ac ansawdd yn ymwneud â rhaglen adolygu trefniadau etholiadol Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Cyhoeddais hefyd y byddwn yn nodi camau gweithredu er mwyn sicrhau bod y rhaglen adolygu’n cael ei chwblhau mewn da bryd ar gyfer etholiadau 2016. Ym mis Mawrth eleni, gofynnais i Glyn Mathias gynnal yr adolygiad a chyflwyno adroddiad i mi erbyn mis Mehefin.
"Mae’r adroddiad hwnnw bellach wedi dod i law a hoffwn ddiolch yn fawr i Mr Mathias a’i dîm am lunio adroddiad cynhwysfawr a thrylwyr o fewn yr amserlen y cytunwyd arno.
"Byddaf yn cyhoeddi’r adroddiad heddiw ar wefan Llywodraeth Cymru. Rwy’n derbyn canfyddiadau’r adroddiad yn llawn. Mae gan yr adroddiad wersi i ni i gyd, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn ymwneud â’r broses o gynnal adolygiadau etholiadol.
"Y canfyddiad sy’n peri’r pryder mwyaf, fodd bynnag, yw’r casgliad bod Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru wedi colli hyder ei randdeiliaid ac felly nid yw’n addas i’r diben.
"Mae’r casgliad hwn yn un difrifol iawn ac felly rwyf wedi penderfynu terfynu penodiadau tri o’r Comisiynwyr presennol. Credaf fod angen cymryd y cam pendant hwn a phenodi ymgeiswyr addas yn eu lle yn gynnar er mwyn adfer enw da’r Comisiwn ymhlith y cyhoedd, llywodraeth leol a charfannau perthnasol eraill. Byddaf yn penodi rhywun i gymryd yr awenau dros dro nes bod modd trefnu proses benodi lawn ac agored.
"Byddaf yn ysgrifennu at Gyngor Ynys Môn i’w hysbysu y bydd eu hadolygiad presennol yn dod i ben am y tro. Rwyf am gymryd y camau angenrheidiol yn gyflym fel bod modd ailddechrau’r adolygiad yn fuan a’i gwblhau mor agos at y dyddiad targed gwreiddiol ag sy’n bosibl.
"Byddaf yn cyhoeddi datganiad arall i amlinellu’r camau rwy’n bwriadu eu cymryd nesaf mewn ymateb i’r argymhellion hyn."











