Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Buddsoddi mewn Taclo Troseddu’n Talu ar ei Ganfed

Mae Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, wedi tynnu sylw at ystadegau ynglŷn â throseddu yng Nghymru sy’n cael eu cyhoeddi heddiw. Mae’r rhain yn dangos yn glir bod buddsoddi mewn taclo troseddu’n talu ar ei ganfed, meddai.
Dydd Mawrth 05 Gorffennaf 2011

Mae’r bwletin, Ffocws Ystadegol ar Droseddu yng Nghymru, yn dangos bod y gyfradd droseddu yng Nghymru wedi bod yn is nag yn Lloegr yn gyson er 2003, gyda’r bwlch yn cau rhywfaint yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Rhwng 2003 a 2009, cafwyd gostyngiad o 20 y cant yn nifer y troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru. Gostyngodd bwrgleriaeth a throseddau ceir yng Nghymru o draean yn ystod y cyfnod hwn, gostyngodd y gyfradd troseddau personol tua 25% a throseddau cartref o bron i 20%.

Yn 2010, roedd cyfran y troseddau a gafodd eu datrys yng Nghymru rhyw 25% yn uwch nag yn Lloegr. Ond roedd canran y bobl yng Nghymru oedd o’r farn bod ymddygiad gwrthgymdeithasol, cyffuriau neu feddwdod yn broblem yn eu hardaloedd nhw rhyw fymryn yn uwch nag yn Lloegr.

Meddai Carl Sargeant:

"Mae’r ystadegau cadarnhaol hyn yn dyst i ymrwymiad a phenderfyniad ein heddweision a’r holl waith caled maen nhw’n ei wneud gyda’r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol i fynd i’r afael â throseddu yng Nghymru.

"Er nad yw materion Cyfiawnder Troseddol a Phlismona wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru, rydyn ni’n gyfrifol am lawer o bethau allweddol sy’n cyfrannu at yr ystadegau troseddu.

"Rydyn ni’n parhau i fuddsoddi’n sylweddol mewn taclo Trais Domestig a Chamddefnyddio Sylweddau. Yn 2011-12 fe wnaethom fuddsoddi dros £35m mewn cyllid refeniw yn unig er mwyn gwneud ein cymunedau’n fwy diogel. Roedd hyn yn cynnwys £4.5m o’r Gronfa Cymunedau Diogelach, £3.6m o’r Gronfa Trais Domestic, a £27.5m o’r Gronfa Weithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau.

"Rydw i’n siwr bod y buddsoddiad hwn wedi cyfrannu’n sylweddol at y canlyniadau gwych a nodir yn y bwletin ystadegol.  Byddwn ni’n parhau i adeiladu ar y gwaith da hwn ac i annog mwy o weithio mewn partneriaeth er mwyn mynd i’r afael â’r hyn sydd wrth wraidd troseddu. Mae hyn hefyd yn dangos gwerth defnyddio cyllid cyhoeddus ar gyfer plismona’r rheng flaen, yn hytrach nag i dalu am gomisiynwyr etholedig drud."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Ffocws Ystadegol ar Droseddu yng Nghymru, 2011

Tagiau

Cyfiawnder cymdeithasol 05 Gorffennaf 2011 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i