Mae nod Masnach Deg yn sicrhau bod ffermwyr mewn gwledydd sy’n datblygu yn cael pris teg am eu nwyddau. Gan fod y pris hwn yn sefydlog, mae’n golygu bod y ffermwyr yn gallu cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Yn croesawu’r datblygiad, dywedodd Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai:
Rwy’n falch iawn o glywed am benderfyniad Trenau Arriva Cymru. Mae’n golygu bod teithwyr yn cael y cyfle i brynu nwyddau masnach deg yn ystod eu taith a helpu ffermwyr mewn gwledydd sy’n datblygu i gael pris teg am eu nwyddau.
Yr haf hwn, rhoddwyd i Gymru statws y genedl Fasnach Deg gyntaf yn y byd ac mae’r cyhoeddiad heddiw yn dangos sut mae gwlad fach fel Cymru yn gallu cymryd camau i wneud newid mawr a chael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl sy’n byw miloedd o filltiroedd i ffwrdd.
Penderfynodd Trenau Arriva Cymru ar y datblygiad ar ôl i Mike Brown, y Cyfarwyddwr Cyffredinol a’r rheolwyr arlwyo Paul Boulonis gyfarfod â chynhyrchwyr Masnach Deg yn ystod pythefnos o ddigwyddiadau Masnach Deg yn gynharach eleni. Yn ystod y cyfarfod a drefnwyd gan brosiect Masnach Deg Cymru'r Ganolfan Gydweithredol i Fusnesau, cawsant wybod am fanteision Masnach Deg a chlywed am Ymgyrch Cenedl o Fasnach Deg Cymru.
Dywedodd Mike Brown:
Cawsom ein hysbrydoli gan y cyfarfod ac roeddem yn teimlo bod angen i ni roi cyhoeddusrwydd i’r nwyddau Masnach Deg rydym eisoes yn eu gwerthu a’u cynnig ar ein holl wasanaethau.
Rydym wedi llwyddo i ddod o hyd i gyflenwr sy’n gallu diwallu ein hanghenion felly erbyn hyn rydym wedi gwneud trefniadau i 60 o’n trolïau weini diodydd poeth Masnach Deg. Mae gennym fflyd o 120 o drenau a nawr, bydd gan y miloedd o deithwyr sy’n defnyddio ein gwasanaethau’n ddyddiol gyfle i chwarae eu rhan hefyd.
Cafodd Arriva gymorth gan Elizabeth Hudson sef Swyddog Marchnata Canolfan Gydweithredol Masnach Deg Cymru a dywedodd:
Mae Trenau Arriva Cymru yn un o’r cwmnïau hynny sydd wedi ymateb i’r her trwy sicrhau bod mwy o fusnesau yn cefnogi Masnach Deg. Maent yn diwallu anghenion y cwsmeriaid ac ar yr un pryd, maent yn cymryd cam tuag at gymdeithas fwy cyfrifol hefyd.
8 Hydref 2008











