Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Grŵp Llandudno’n arwain y ffordd ar gyfer dyfodol cynaliadwy Cymru

Heddiw (dydd Llun 15 Rhagfyr), ymwelodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Jane Davidson, â Llandudno er mwyn gweld sut y mae grŵp lleol yn gwneud eu rhan i wneud Cymru yn genedl wirioneddol gynaliadwy.
Dydd Llun 15 Rhagfyr 2008

Roedd Ms Davidson yn yr ardal er mwyn hyrwyddo’r Cynllun Datblygu Cynaliadwy a fydd yn sicrhau bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn defnyddio ei holl bwerau datganoledig i wneud pob rhan o’r sector cyhoeddus yn gynaliadwy er lles yr amgylchedd a phobl Cymru.

Un diffiniad o Ddatblygu Cynaliadwy yw gwella ansawdd bywyd a lles pobl a defnyddio adnoddau amgylcheddol yn gynaliadwy, fel nad yw’r datblygiadau a wneir nawr yn amharu ar ansawdd bywyd cenedlaethau’r dyfodol.  Er mwyn cyflawni hyn, mae’r cynllun newydd yn galw am wneud penderfyniadau ar y cyd ar bob lefel o’r llywodraeth a’r sector cyhoeddus.

Aeth y Gweinidog i weld gwaith Crest Co-operative yng Nghyffordd Llandudno.  Mae’r grŵp yn sefydliad dielw sy’n darparu cefnogaeth, hyfforddiant a phrofiad gwaith i’r rheiny sydd wedi’u hallgáu’n gymdeithasol.  Mae’n hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol ac yn cynnal dwy fenter ailgylchu cymunedol.

Meddai Ms Davidson:

Mae’r cynllun hwn yn weledigaeth newydd i Gymru.  Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn defnyddio ei holl bwerau datganoledig – o iechyd a thrafnidiaeth i addysg – i leihau effaith amgylcheddol Cymru ar y byd ac i helpu i ddiogelu ein gwlad ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Roedd hi’n canmol canolfan y Co-operative trwy ychwanegu:

Mae ymroddiad a brwdfrydedd y bobl a’r gwirfoddolwyr sy’n rheoli’r ganolfan hon yn anhygoel.  Caiff ei rheoli gan bobl leol er mwyn diwallu anghenion y gymuned leol, wrth helpu pobl i ailgylchu eu gwastraff hefyd, a darparu hyfforddiant er mwyn helpu unigolion i gael swydd.

Mae’n enghraifft ragorol o fywyd go iawn a phrosiect sy’n rhoi datblygu cynaliadwy ar waith – gan helpu i leihau’r adnoddau yr ydym ni’n eu defnyddio, ac yn dangos yn glir y math o fenter yr hoffwn i ei gweld yn cael ei hannog ledled Cymru.

Meddai Jay Martin, Cyfarwyddwr Crest Co-operative:

Mae ein model menter gymdeithasol llwyddiannus wedi denu llawer o sylw o ledled Cymru a’r DU oherwydd ein bod yn dangos bod gweithgaredd ailgylchu a chyfleoedd cynhwysiant cymdeithasol yn gallu cael eu cyfuno i greu cyflogaeth gynaliadwy mewn cymunedau lleol.

Dylem ni lawn sylweddoli’r effaith gadarnhaol y mae hyn yn ei chael ar gymunedau trwy ddosbarthu cyfoeth, lleihau trosedd, gwella’r amgylchedd ac uwchraddio sgiliau.  Rydym ni’n falch iawn bod y Gweinidogion wedi dod i ymweld â ni a bod ganddi ddiddordeb yn ein gwaith ar draws Gogledd Cymru.

15 Rhagfyr 2008

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Datblygu cynaliadwy

Tagiau

Datblygu cynaliadwy 15 Rhagfyr 2008
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i