Wrth siarad yn yr Uwchgynhadledd fawr ar gynaliadwyedd yn Llundain, cyhoeddodd y Gweinidog y byddai Peter Davies yn cael ei benodi'n Gomisiynydd cyntaf Dyfodol Cynaliadwy Cymru.
Meddai'r Gweinidog:
"Mae'n briodol fy mod i'n cyhoeddi Comisiynydd cyntaf Dyfodol Cynaliadwy Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi, gan fod Cymru yn un o dair gwlad yn unig yn y byd sydd â dyletswydd gyfreithiol i sicrhau Datblygu Cynaliadwy yn ei chyfansoddiad.
"Bydd penodiad Peter yn sicrhau ein bod ni'n parhau i dderbyn cyngor annibynnol ar gynaliadwyedd polisïau a rhaglenni Cymru, a bod camau'n cael eu cymryd i gefnogi datblygu cynaliadwy ym mhob rhan o'r gymdeithas yng Nghymru."
Cyhoeddodd y Gweinidog hefyd gynlluniau i greu corff i helpu Comisiynydd newydd Dyfodol Cynaliadwy.
Meddai'r Gweinidog:
"Er mwyn helpu Peter yn ei swydd, fy mwriad i yw creu corff newydd a fydd yn datblygu ein dyletswydd bresennol i sicrhau datblygu cynaliadwy ac yn ein cynghori ni yn ein taith tuag at Gymru fwy cynaliadwy.
"Caiff y gwaith hwn ei ddatblygu gan y llywodraeth nesaf, ond fy mwriad i yw y bydd y corff newydd yn gwireddu ein dyletswydd i hyrwyddo datblygu cynaliadwy a helpu i sicrhau lles cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol pobl ledled Cymru. “
Mae'r swydd newydd hon yn cael ei chyhoeddi yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i dynnu arian yn ôl oddi wrth y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy.
Peter Davies yw Comisiynydd Datblygu Cynaliadwy Cymru ar hyn o bryd. Bydd ei swydd fel Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy yn dechrau ar 1 Ebrill 2011 ac yn para tan 28 Mehefin 2012.











