Bydd y tri Gweinidog yn siarad yn ystod yr Uwchgynhadledd Busnes Cynaliadwy, a arweinir gan Lywodraeth y Cynulliad. Byddant yn annerch cynrychiolwyr o fwy na 90 o fusnesau a sefydliadau yng Nghymru sydd â diddordeb mewn cynnal busnes mewn ffordd fwy cynaliadwy.
Bydd y cynrychiolwyr hefyd yn clywed gan bobl amlwg mewn busnesau cynaliadwy, gan gynnwys Prif Swyddog Cynaliadwyedd IKEA, Steve Howard; Rheolwr Rhanbarthol Pricewaterhouse Coopers, Robert Lewis; a Chomisiynydd Datblygu Cynaliadwy Cymru, Peter Davies.
Bydd yr uwchgynhadledd yn arddangos yr amrywiaeth o gwmnïau sy’n arwain yn y maes ac eisoes yn gwneud cyfraniad gweladwy i ddyfodol cynaliadwy Cymru. Bydd hefyd yn dangos sut y gall gwneud penderfyniadau cynaliadwy arwain at fanteision busnes hirdymor sy’n cynnwys arbedion cost net a thwf yn y farchnad.
Gan siarad am y digwyddiad, meddai Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru:
“Rwy’n falch bod Cymru’n un o’r tair o wledydd yn y byd sydd â dyletswydd statudol mewn perthynas â datblygu cynaliadwy. Yn sgil yr ymrwymiad hwn mae holl strategaethau allweddol Llywodraeth y Cynulliad bellach yn adlewyrchu egwyddorion datblygu cynaliadwy.
“Mae Datblygu Cynaliadwy’n golygu gwneud penderfyniadau sy’n cefnogi lles hirdymor pobl Cymru. Mae digwyddiadau heddiw yn tynnu sylw at rôl dyngedfennol busnesau yn hyn o beth. Ond mae hefyd yn ymwneud ag arddangos arloesedd a mentergarwch amrywiaeth o gwmnïau blaengar sydd eisoes yn cyfrannu at economi gwyrdd Cymru, sy’n tyfu o hyd.”
Meddai Gweinidog yr Amgylchedd, Jane Davidson:
“Mae busnesau’n allweddol i helpu Cymru i gyflawni ei huchelgeisiau o ran datblygu cynaliadwy.
“Drwy hybu effeithlonrwydd adnoddau, lleihau gwastraff a chynhyrchu nwyddau a gwasanaethau carbon isel, mae busnesau eisoes yn gwneud cyfraniad hanfodol i leihau ôl-troed ecolegol Cymru.
“Ond mae datblygu cynaliadwy’n fwy na diogelu’r amgylchedd yn unig. Bydd y digwyddiad heddiw yn dangos bod gwneud penderfyniadau’n gynaliadwy yn annog twf cynaliadwy ac yn gwneud synnwyr busnes da.”
Meddai’r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones:
“Rydym am weld busnesau sy’n gallu wynebu’r dyfodol yn hyderus ac yn sylweddoli y gall datblygu swyddi gwyrdd helpu i gynyddu cystadleurwydd.
“Mae ein hymrwymiad i swyddi gwyrdd – sy’n cael ei adlewyrchu yn “Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd” – yn ein helpu ni i gyflawni dau amcan. Mae’n cryfhau ein hymrwymiad i fynd i’r afael â newid hinsawdd ac yn ysgogi adferiad o’r dirwasgiad economaidd cyfredol.
“Er mwyn llwyddo yn yr ymdrech hon rhaid inni barhau i gysylltu’n llawn â diwydiant ac yn wir â’r holl brif chwaraewyr, ac mae’r digwyddiad heddiw yn un ffordd yn unig o weithio er mwyn cyflawni hyn.”
Bydd yr Uwchgynhadledd Busnes Cynaliadwy yn cynnwys trafodaethau mewn grwpiau fel y gall cynrychiolwyr gyfrannu eu safbwyntiau am faterion busnes a heriau yn y dyfodol. Bydd hefyd cyflwyniadau gan gynrychiolwyr o Legal & General, Nwy Prydain, UPM-Kymmene ac Orange Box, a fydd yn sôn am eu hymdrechion i weithredu’n llawer iawn mwy cynaliadwy.











