Prif rwydwaith Llywodraeth Cynulliad Cymru i roi cyfle i gyrff rannu'u profiadau ynghylch datblygu cynaliadwy yw'r Siarter. Mae pob sefydliad hefyd yn gosod ei her flynyddol ei hun i ddangos yr hyn y bydd yn ei wneud yn wahanol a bydd yn paratoi adroddiad amdano bob blwyddyn.
Y cyrff diweddaraf i ymuno â'r Siarter yw: Ymddiriedolaethau Natur Cymru, Carillion PLC a Syrfewyr Siartredig Robert Chapman & Company Limited. Mae hyn yn dangos yr amrywiaeth o gyrff sy'n sôn am werth a pherthnasedd datblygu cynaliadwy.
- Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru, sef corff 49 i ymuno â'r siarter, yn trin datblygu cynaliadwy fel un o brif egwyddorion ei waith. Mae'r corff hwn yn gweithredu drwy chwe ymddiriedolaeth natur yng Nghymru. Mae'n ymgorffori datblygu cynaliadwy drwy warchod safleoedd bywyd gwyllt, ymgysylltu â chymunedau lleol a thrwy eu rhaglenni addysg ysbrydoledig sy'n ymwneud â gwerth ein byd naturiol.
- Mae Carillion PLC, sef corff 50 i ymuno â'r Siarter, ymhlith gwasanaethau cymorth a chwmnïau adeiladu mwyaf y DU ac mae'n cyflogi tua 50,000 o bobl o amgylch y byd ac yn ennill dros £5 biliwn y flwyddyn. Mae wedi cynnwys datblygu cynaliadwy yn ei waith am dros 10 mlynedd. Ym marn y cwmni, cynaliadwyedd yw un o'r prif ffyrdd o reoli risgiau. Mae hyn wedi helpu Carillion i fynd i'r afael â phryderon cymdeithasol ac amgylcheddol ac ennill mwy o fusnes drwy fod yn wahanol i'w gystadleuwyr.
- Mae Robert Chapman & Company Limited, sef corff 51 i ymuno â'r Siarter, ymgynghorwyr eiddo annibynnol arbenigol o Gaerdydd, yn disgrifio eu dull o weithredu datblygu cynaliadwy fel dull 'dirodres' sy'n gwneud gwahaniaeth drwy ymddygiad staff a'r ffordd o reoli'u swyddfa a hefyd drwy'r ffordd y maen nhw'n dylanwadu ar gleientiaid drwy'r cyngor a'r arbenigedd y maen nhw'n eu cynnig iddyn nhw. Mae'u rôl yn arbennig o berthnasol gan fod amcangyfrifon cyfredol yn dangos bod allyriadau'r sector adeiladau yn cyfrif am 64% o allyriadau carbon y DU.
Er bod maint y sefydliadau hyn yn amrywio, a'u bod yn perthyn i sectorau gwahanol, mae pob un ohonynt yn gwerthfawrogi datblygu cynaliadwy mewn ffordd debyg. Hynny yw, maen nhw'n defnyddio'i egwyddorion i gynllunio a diogelu eu gwaith ar gyfer y dyfodol, datblygu ffyrdd newydd o weithio ac arbed ynni ac arian a lleihau gwastraff.
Un o brif amcanion rhwydwaith y Siarter yw creu 'cymuned o arfer da' i alluogi cyrff sy'n dechrau ar eu taith gynaliadwy i ddysgu o lwyddiannau cyrff eraill. Anogir pob corff i rannu syniadau, arferion a llwyddiannau gyda'i gilydd i ddatblygu'r wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen i roi datblygu cynaliadwy ar waith ym mhob sector.
Wrth gydnabod y garreg filltir bwysig hon meddai Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai:
"Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i fyw yn ôl Cenedl Un Blaned, lle rydyn ni'n byw ac yn cynllunio ar gyfer dyfodol sy'n defnyddio dim ond ein cyfran deg o adnoddau'r ddaear.
"Mae ein Siarter Datblygu Cynaliadwy yn pwyso ar gyrff i roi lle canolog i gynaliadwyedd yn eu gwaith datblygu a sicrhau bod eu penderfyniadau yn hybu lles hirdymor, cynaliadwy pobl a chymunedau.
"Rwyf wrth fy modd bod dros 50 o gyrff wedi dangos eu hymrwymiad i fusnes a phenderfyniadau cynaliadwy drwy ymuno â'n Siarter. Mae'n ddechrau gwych ac rwy'n annog cyrff eraill yng Nghymru i ddilyn y trywydd cynaliadwy hefyd."
Esboniodd Rachel Sharp, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaethau Natur Cymru:
"Fel corff mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein ffyrdd o weithio'n gynaliadwy a'n bod yn lleihau ein hôl troed carbon. Rydym o'r farn ein bod yn gallu gwneud gwahaniaeth gyda'n gilydd ac felly rydym wedi ymuno â'r Siarter Cynaliadwyedd i gyhoeddi ein hymrwymiad ar gyfer y dyfodol."
Ychwanegodd Stuart Gibbs, Rheolwr Cynaliadwyedd Carillion:
"Mae ymuno â'r Siarter bellgyrhaeddol hon yn dangos ymrwymiad Carillion i helpu a chefnogi ein cleientiaid i fodloni eu hamcanion cynaliadwyedd. Rydym yn falch mai ni yw corff 50 i ymuno â'r Siarter ac rydym yn credu bod y siarter hon yn cynnig cyfle i fod yn arloesol a chydweithio i sicrhau'r canlyniadau mwyaf cynaliadwy sydd o fantais i bawb ar gyfer pob prosiect."
Yn achos Robert Chapman, gwnaed y penderfyniad i ymuno â'r Siarter oherwydd:
"Mae'n rhaid i ni edrych at y dyfodol er budd cenedlaethau i ddod. Os ydym yn parhau i ddefnyddio mwy nag sydd gyda ni, efallai na fydd dyfodol. Felly rydym am ymgorffori Datblygu Cynaliadwy yn ein gwaith oherwydd mai dyna'r peth iawn i'w wneud, ac oherwydd y bydd yn rhoi mantais gystadleuol i ni pan ydyn ni'n gweithio i ystod o gyrff sy’n ehangu’n gynyddol gan gynnwys Llywodraeth y Cynulliad. Ond, fel y dywedodd John F. Kennedy: 'Effort and courage are not enough without purpose and direction’.”











