Wrth siarad mewn digwyddiad Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru yng Nghaerdydd, cyhoeddodd y Gweinidog y bydd safonau adeiladu uwch ar gyfer cartrefi newydd yn dod i rym yng Nghymru yn 2013. Bydd y safonau newydd yn galw am welliant o 55% mewn safonau adeiladu o gymharu â 2006
Gallai hynny olygu bod Cymru dair blynedd ar y blaen i Loegr o ran cyflwyno safonau i sicrhau bod adeiladau’n ddi-garbon.
Roedd y Gweinidog am egluro bwriad Llywodraeth Cynulliad Cymru i godi safonau ar gyfer tai newydd, a hynny ar ôl i Grŵp Ddi-garbon y DU gyhoeddi adroddiad sy’n argymell targedau di-garbon ar y safle.
Meddai’r Gweinidog:
“Cymerodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ran yn y trafodaethau a arweiniodd at adroddiad y Grŵp ac mae’r adroddiad hwnnw’n cynnwys llawer y gallwn ni yng Nghymru elwa ohono. Fodd bynnag, yn y bôn, adroddiad yw hwn i Lywodraeth San Steffan sicrhau bod tai yn Lloegr yn ddi-garbon.
“Mae casgliadau’r adroddiad yn gyffredinol debyg i’n newidiadau arfaethedig i’r Rheoliadau Adeiladu ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd gennyf y llynedd. Byddwn ni’n ymgynghori ar y Rheoliadau hyn yn 2012.
“Yr amseriad yw’r gwahaniaeth mawr. Ein bwriad yw gweithredu’r newidiadau o 2013, sef 3 blynedd cyn i Loegr weithredu’r newidiadau a argymhellir ar ei chyfer.
“Dw i am gyflwyno’r newidiadau yn 2013 gan fy mod i’n credu bod angen i ni roi sylw brys i’r baich ychwanegol y mae adeiladau newydd yn rhoi ar ein hamgylchedd. Dw i hefyd yn benderfynol o beidio ychwanegu at y problem."
Roedd y Gweinidog yn cydnabod bod pryderon wedi’u codi ynghylch y ffaith bod newidiadau i’r safonau adeiladu tai yng Nghymru yn dod i rym cyn iddynt gael eu cyflwyno yn Lloegr. Fodd bynnag, roedd hi’n teimlo bod hynny’n rhoi cyfle i fusnesau yng Nghymru fod ar y blaen.
Meddai’r Gweinidog:
“Er bod yn rhaid i ni ystyried nifer o effeithiau, dw i’n credu y bydd cyflwyno’r newidiadau yn 2013 yn dod ag amrywiaeth o gyfleoedd i fusnesau yng Nghymru. Byddan nhw’n cael datblygu’r sgiliau, yr arbenigedd a’r profiad fydd yn golygu eu bod mewn sefyllfa i fanteisio ar y newidiadau pan fyddan nhw’n cael eu gweithredu yn Lloegr.
“Mae’n bwysig cofio hefyd bod cyflwyno’r newidiadau yn 2013 yn newyddion gwych i’n hamgylchedd a’n hymdrechion i leihau ein hallyriadau carbon. Bydd yn sicrhau y gallwn ni gyrraedd y targedau a nodir yn ein Strategaeth Newid Hinsawdd.”
Cadarnhaodd y Gweinidog y byddai’r ymgynghoriad y flwyddyn nesaf yn cynnwys rhagor o fanylion am sut y byddai’r newidiadau di-garbon yn gweithio’n ymarferol.











