Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cyhoeddi Adroddiad ar Gyflwr Amgylchedd Cymru

Mae gwaith yn mynd rhagddo i wella amgylchedd Cymru. Dyna a ddengys ystadegau newydd a gyhoeddwyd heddiw (21 Gorff).
Dydd Gwener 22 Gorffennaf 2011

Yn ôl y ffigurau diweddaraf, o’r 100 o ddangosyddion sydd wedi’u diffinio a lle bo gennym wybodaeth, mae 47 y cant ohonynt yn dangos gwelliant.  Dim ond pum dangosydd sy’n dangos dirywiad.  Mae’r adroddiad yn dangos gwelliant mewn sawl maes ledled Cymru gan gynnwys ailgylchu, ansawdd dŵr ymdrochi a thipio anghyfreithlon.

Mae Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, John Griffiths, yn croesawu’r ystadegau diweddaraf sy’n rhoi darlun cyffredinol i Lywodraeth Cymru o’i chynnydd ar roi ei Strategaeth Amgylcheddol ar waith.

Meddai Mr Griffiths:

“Mae’n bwysig cael adroddiadau rheolaidd ar gyflwr amgylchedd Cymru er mwyn inni allu monitro’n gwaith, adolygu ein polisïau yn ôl y gofyn a chanolbwyntio ar feysydd y mae angen eu gwella.

“Rwy’n sylweddoli nad ar chwarae bach y mae gwireddu ein hamcanion ar gyfer yr amgylchedd.  Er hynny, bydd ein cynlluniau ar gyfer gwastraff, datblygu cynaliadwy a gofalu am yr amgylchedd naturiol yn ein galluogi i wireddu’n gweledigaeth am amgylchedd sy’n lân, iach, yn fiolegol gyfoethog a gwerthfawr yng ngolwg pobl Cymru.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Datblygu cynaliadwy 22 Gorffennaf 2011 Yr Amgylchedd Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Ebrill 2012
Ll M M I G S S
<< Maw   Mai >>
            1
2 3 4 5 6 7 8
9 10 11 12 13 14 15
16 17 18 19 20 21 22
23 24 25 26 27 28 29
30            
I'n dilyn ni trowch i