Mae'r adroddiad yn rhoi manylion hynt gwaith mewn nifer o feysydd, gan gynnwys cyflogaeth, allyriadau nwy tŷ gwydr, cyfiawnder cymdeithasol, addysg a thrafnidiaeth.
Mae'r prif waith a wnaed yn 2010-11 yn cynnwys:
- Helpu cynlluniau ailgylchu awdurdodau lleol drwy Grant Rheoli Gwastraff Cynaliadwy £72 miliwn, sef 22% yn fwy na grant y flwyddyn flaenorol.
- Gweithredu mwy na 1,800 o brosiectau i ddiogelu cynefinoedd rhywogaethau a warchodir neu sydd mewn perygl, neu er bioamrywiaeth, ledled Cymru.
- Rhoi rhagor o arian i Gaerdydd dan y Cynllun Teithio Cynaliadwy.
- Parhau i warchod a hyrwyddo mynediad i’r cyhoedd i safleoedd canoloesol megis Castell Sycharth, Llys Rhosyr a Chastell Nanhyfer.
Mae egwyddorion datblygu cynaliadwy sy'n ystyried effaith hirdymor gweithgareddau yn ganolog i broses Llywodraeth Cymru o wneud penderfyniadau. Mae pob penderfyniad yn hyrwyddo lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pobl a chymunedau Cymru, heddiw ac yn y dyfodol.
Wrth siarad mewn digwyddiad i adolygu llwyddiant cynllun Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, John Griffiths:
"Mae'r adroddiad hwn yn dangos sut mae ein dull ni o weithredu yn gwneud gwir wahaniaeth yn y tymor hir i ansawdd bywyd pobl ledled Cymru. Mae Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned yn nodi agenda uchelgeisiol ac mae'r adroddiad yn darparu tystiolaeth sy'n amlinellu'r cynnydd rydyn ni wedi'i wneud.
"Rydyn ni'n cynnal adolygiad statudol o effeithiolrwydd y cynllun er mwyn cloriannu pa bolisïau sy'n gweithio a'r hyn y gallwn ni ei wneud i oresgyn unrhyw heriau sydd ar ôl. I wneud hyn, rydyn ni'n cydweithio'n agos â chyrff cyhoeddus, grwpiau perthnasol eraill a Pricewaterhouse Coopers.
"Dw i'n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn annog pawb i barhau i weithio gyda ni i helpu i weithredu polisïau’n llwyddiannus sy'n sicrhau ffyniant Cymru yn y tymor hir."











