Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar ddiben a chwmpas y Bil Datblygu Cynaliadwy yn ystod 2012 a chyflwyno'r Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol y flwyddyn wedyn.
Dywedodd y Gweinidog:
“Cymru yw un o'r prin weinyddiaethau yn y byd sydd â dyletswydd statudol yn ymwneud â datblygu cynaliadwy. Ein nod nawr yw cryfhau'r ddyletswydd hon er mwyn sicrhau bod datblygu cynaliadwy yn rhan annatod o'n meddylfryd ni a meddylfryd y sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru. Rydyn ni'n credu i'r carn ym mhwysigrwydd yr ymrwymiad hwn.
“Mae'n dangos y byddwn yn defnyddio datblygu cynaliadwy i wneud penderfyniadau gwell ar draws pob portffolio Gweinidogol i'n helpu i wireddu ein huchelgais o fod yn genedl wirioneddol gynaliadwy.
“Mae'n rhaid i'r Bil Datblygu Cynaliadwy wneud gwahaniaeth amlwg, nawr ac yn y dyfodol, i fywydau bob dydd ein dinasyddion. Mae'n rhaid i'n dull o sicrhau cynaliadwyedd fod yn berthnasol i'r ffordd o lunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol.
“I'n cynghori, i'n harwain ac i'n herio ar hyn rydym hefyd am greu corff cynaliadwy annibynnol statudol newydd i Gymru. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad cadarn i ddatblygu cynaliadwy ac mae'r dull hwn yn helpu i'n gwneud yn genedl unigryw."
Er mwyn trin cynaliadwyedd fel ei phrif egwyddor drefnu mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru:
wneud penderfyniadau hirdymor effeithiol;
- sicrhau ein bod yn cynnwys y materion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy'n gwella ansawdd bywyd
- pobl ym mhopeth yr ydym yn ei wneud;
- gweithio gydag eraill i wneud penderfyniadau.











