Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Arian Arbed yn helpu i gadw cartrefi'n gynnes

Gweinidog dros yr Amgylchedd, John Griffiths, a'r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, wedi ymweld â chartrefi yng Nghaerdydd sydd wedi cael eu trawsnewid gan ystod o fesurau effeithlonrwydd ynni.
Dydd Llun 05 Rhagfyr 2011
Gweinidog dros yr Amgylchedd, John Griffiths, a'r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, gyda Pamela Williams, y mae eu cartref wedi elwa ar welliannau Arbed.
Gweinidog dros yr Amgylchedd, John Griffiths, a'r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, gyda Pamela Williams, y mae eu cartref wedi elwa ar welliannau Arbed.

Cwrddodd y Gweinidogion â Pamela Williams o Fryn Celyn ym Mhentwyn sy'n mwynhau cartref cynhesach a biliau tanwydd is, diolch i raglen ynni strategol Llywodraeth Cymru, Arbed.

Cwrddon nhw hefyd â Luke Mitchell a Dale Jennings, dau blastrwr sydd newydd eu cymhwyso ac sydd wedi cael hyfforddiant a gwaith ym Mhentwyn, diolch i Arbed.

Mae mwy na hanner miliwn o bunnoedd yn cael ei wario drwy raglen Arbed i wella mwy na 200 o gartrefi ym Mhentwyn. Mae'r arian yn talu am fesurau arbed ynni megis cladin allanol, inswleiddio waliau ac atig a boeleri dosbarth A.

Mae'r buddsoddiad ym Mhentwyn yn rhan o gymal cyntaf rhaglen Arbed pan gafodd £61 miliwn ei wario i sicrhau bod cartrefi yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn defnyddio ynni'n fwy effeithiol.

Yn ystod ail gymal rhaglen Arbed, sydd wedi dechrau erbyn hyn, caiff £45 miliwn ychwanegol ei fuddsoddi yng nghartrefi Cymru.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths:

"Mae'n hanfodol sicrhau bod cartrefi Cymru yn defnyddio ynni'n fwy effeithiol os ydyn ni am lwyddo i fynd i'r afael â thlodi tanwydd.

"Mae rhaglen Arbed yn cael gwir effaith ar gymunedau ledled Cymru, ac mae'n sicrhau bod cartrefi yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn gynhesach ac yn haws eu cynhesu. Mae hefyd yn ein helpu i gyrraedd rhai o'r targedau heriol i leihau carbon yn unol â'n Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd.

"Dw i wrth fy modd yn cael ymweld â phobl yn eu tai ym Mhentwyn – pobl sy'n mwynhau cartrefi cynhesach a biliau tanwydd mwy fforddiadwy, diolch i'r buddsoddiad drwy Arbed."  

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt:

"Mae'n braf gweld drosof i fy hun y gwahaniaeth mae arian Arbed yn ei wneud i bobl sy'n byw yma ym Mhentwyn.

"Fodd bynnag, nid tai yn unig sy'n elwa ar raglen Arbed. Mae'r arian hefyd yn helpu i greu swyddi newydd mewn cymunedau ledled Cymru, sbarduno economi werdd Cymru a helpu'r diwydiant adeiladu drwy gyfnod anodd."

Yn ystod cymal cyntaf Arbed rhwng 2009 a 2011, cafodd 6000 o gartrefi ledled Cymru eu gweddnewid, diolch i fesurau arbed ynni.

Helpodd y rhaglen hefyd i ddarparu dros 4,500 o wythnosau o hyfforddiant yng Nghymru a helpodd gwmnïau Cymru, neu gwmnïau sy'n cyflogi llawer o staff yng Nghymru, i osod 80% o'u technoleg.

Mae rhaglen Arbed yn cael ei gweithredu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a Chymdeithasau Tai Cymru.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Trosolwg o'r rhaglen

Tagiau

Datblygu cynaliadwy 05 Rhagfyr 2011 Yr Amgylchedd Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i