Mae’r adroddiad hefyd yn dweud, pan fo datblygu cynaliadwy yn rhan hanfodol o bolisi a phenderfyniadau Llywodraeth Cymru, fod y canlyniadau yn fwy effeithiol ac effeithlon.
Ond er bod yr adroddiad yn cydnabod camau’r Llywodraeth o ran datblygu cynaliadwy, mae’n tynnu sylw at y ffaith bod mwy o waith eto i’w wneud er mwyn cyflawni ein holl amcanion.
Dywedodd John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd:
“Dwi’n falch bod yr adroddiad hwn yn cydnabod y ffaith ein bod ni’n cymryd camau i wneud datblygu cynaliadwy yn egwyddor ganolog, a’n bod ni’n meddwl mewn ffordd gydgysylltiedig, hirdymor ar sail yr hyn sydd orau i Gymru.
“Mae’r adroddiad yn cydnabod cynaliadwyedd rhai o’n prif bolisïau a strategaethau ar draws y Llywodraeth. Ymhlith y rhain mae ein rhaglen buddsoddi strategol mewn perfformiad ynni, Arbed, ein cefnogaeth i’r economi, ein Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd, ein rhaglen ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif, ein strategaeth Tlodi Plant a’n Strategaeth Bwyd i Gymru.
“Dwi’n hyderus bod gweithredu ar bob lefel o’r Llywodraeth wir yn mynd i wella ansawdd bywyd i bobl a chymunedau yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol.”
Mae’r adroddiad yn canmol ymdrechion Llywodraeth Cymru i ymgysylltu ag amrywiaeth o sefydliadau ynghylch datblygu cynaliadwy, a’i Siarter Datblygu Cynaliadwy sydd wedi’i llofnodi erbyn hyn gan fwy na 100 o sefydliadau ac sy’n rhwydwaith i rannu arferion gorau.
Mae’n cydnabod hefyd nad rhywbeth sy’n digwydd unwaith yw datblygu cynaliadwy ond taith i’w dilyn, ac mae’n nodi nifer o gamau pellach y gallai’r Llywodraeth eu cymryd.
Mae’r Gweinidog wedi derbyn y camau nesaf hyn ac mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ceisio eu rhoi ar waith.
Dywedodd y Gweinidog:
“Mae ein hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy yn hyrwyddo lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol a bydd wir yn gwella ansawdd bywyd yng Nghymru.
“Mae’n diffinio llwybr datblygu hirdymor ein cenedl. Mae’n golygu pobl gynhyrchiol iach, cymunedau cynhwysol bywiog, amgylchedd amrywiol cryf, ac economi garbon-isel ddyfeisgar. Dim ond newyddion da yw hyn i Gymru."











