Ers dechrau’r flwyddyn, BT a Tata Steel wedi llofnodi siarter Llywodraeth Cymru, sy’n annog busnesau a sefydliadau Cymru i roi penderfyniadau cynaliadwy wrth galon eu penderfyniadau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu a hyrwyddo’r siarter er mwyn annog sefydliadau a busnesau Cymru i wneud penderfyniadau a fydd yn dod â manteision hirdymor, cynaliadwy iddyn nhw eu hunain, i’r economi ac i gymunedau Cymru.
Bellach, mae 117 o fusnesau a sefydliadau wedi datgan yn gyhoeddus eu hymrwymiad i weithio’n gynaliadwy. Mae’r rhestr yn cynnwys enwau mawr eraill o fyd busnes, megis Marks and Spencer, PwC, Sharp Electronics, Carillion plc a Lloyds TSB, yn ogystal â nifer o sefydliadau bach a chanolig sy’n cynrychioli asgwrn cefn economi Cymru.
Caiff y siarter ei gefnogi gan sefydliadau allweddol o’r sector cyhoeddus hefyd, megis Dyfrffyrdd Prydain a Phrifysgol Caerdydd a mudiadau gwirfoddol uchel eu proffil fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Cadwch Gymru’n Daclus.
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths:
“Mae ein Siarter DC yn annog sefydliadau i roi cynaliadwyedd wrth galon eu datblygiad a sicrhau bod eu penderfyniadau’n hyrwyddo lles pobl a chymunedau yn y tymor hir.
"Mae Tata a BT yn gyflogwyr mawr yng Nghymru. Mae’r ffaith eu bod yn ymrwymo’n gyhoeddus i wneud penderfyniadau busnes mewn modd cynaliadwy yn rhywbeth sydd i’w groesawu’n fawr, a byddwn yn annog sefydliadau eraill yng Nghymru i ddilyn eu hesiampl.”
Dywedodd Dr Paul Brooks, Cyfarwyddwr Amgylchedd Tata Steel:
“Rydym yn wynebu llawer o sialensiau wrth geisio cyflawni ein cyfrifoldebau ond mae gennym hanes cryf o wneud gwelliannau mawr iawn. Dros y genhedlaeth ddiwethaf rydym wedi llwyddo i haneru ein hallyriadau carbon deuocsid ac rydym yn cyrraedd safonau uwch nag erioed wrth ofalu am yr amgylchedd; rydym yn ailgylchu hyd at dunnell o ddur bob blwyddyn ac yn cydweithio â’n partneriaid a’r awdurdodau i wella ansawdd yr aer.
“Drwy lofnodi Siarter DC Llywodraeth Cymru, rydym yn dangos ein hymrwymiad i barhau a dal ati gyda’n gwaith da ni yn y maes hwn.”
Dywedodd Niall Dunne, Prif Swyddog Cynaliadwyedd BT:
"Mae materion cynaliadwyedd yn gynyddol bwysig i’n cwsmeriaid ni yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i ganfod ffyrdd o leihau’r effaith a gawn ar yr amgylchedd a thrwy lofnodi Siarter Llywodraeth Cymru rydym yn dangos ein bod yn benderfynol o gadw cynaliadwyedd yn ganolog i’n gwaith ni o ddydd i ddydd."
Bydd BT a Tata Steel yn ychwanegu eu harbenigedd nhw at brofiad rhai o’r prif ymarferwyr datblygu cynaliadwy yng Nghymru.
Drwy lofnodi’r siarter maent hefyd yn gosod eu hunain yng nghanol y trafodaethau allweddol ynghylch polisi datblygu cynaliadwy. Mae hyn yn arbennig o berthnasol ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru’n ystyried sut y gallai ddeddfu ar draws y sector cyhoeddus i ennyn ymrwymiad cryfach i ddatblygu cynaliadwy.











