Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau cynaliadwy yn Affrica gyda’i Gynllun Buddsoddi Carbon

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths, wedi cyhoeddi mwy na £60,000 i helpu cymunedau yn Affrica Is-Sahara i ddatblygu cyflenwadau ynni cynaliadwy a gwasanaethau hanfodol.
Dydd Llun 12 Mawrth 2012

Daw’r cyllid yn sgil Cynllun Buddsoddi Carbon Llywodraeth Cymru sy’n ymrwymo Gweinidogion a’r sefydliad ehangach i gydbwyso ôl-troed carbon eu teithio mewn awyrennau, ceir fflyd a cheir llog gyda buddsoddiad mewn prosiectau sy’n ceisio lleihau allyriadau carbon.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £63, 410 i wyth prosiect ledled Cymru i hwyluso gwaith gyda chymunedau yn y Gambia, Zanzibar, Uganda a Kenya.

Bydd yr arian yn cefnogi ystod o brosiectau, gan gynnwys gosod panelau solar mewn clinig iechyd yn y Gambia a fydd yn helpu i sicrhau cyflenwad golau, pŵer a dŵr dibynadwy.

Bydd yr arian hefyd yn cefnogi system ddyfrhau pŵer solar yn Kenya a fydd yn galluogi’r gymuned leol i dyfu cnydau yn fwy effeithiol, gan gynnwys cnau cashiw.

Nod y prosiectau yw helpu cymunedau yn Affrica Is-Sahara i ddatblygu a ffynnu mewn ffyrdd cynaliadwy a charbon isel.

Wrth sôn am y cyllid, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths:

“Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i leihau allyriadau carbon ledled Cymru, ac wrth gwrs yn Llywodraeth Cymru ei hun.

“Rwy’n falch bod ein Cynllun Buddsoddi Carbon, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ni gyfrif am ein hallyriadau’n hunain drwy fuddsoddi mewn prosiectau lleihau carbon, yn cefnogi’r fath brosiectau rhagorol mewn cymunedau yn Affrica.

“Bydd y prosiectau hyn yn helpu i wella safon bywyd y cymunedau hyn mewn ffordd gynaliadwy sy’n helpu i fynd i’r afael â her ddifrifol y newid yn yr hinsawdd.”

Un o’r cyrff cymunedol sy’n derbyn arian yw Sazani Associates ym Mhenfro sy’n gweithio gyda 30 o gymunedau gwledig yn Zanzibar ac sydd wedi bod yn canolbwyntio’n ddiweddar ar hyfforddi grwpiau menywod i ddefnyddio ffyrnau rhad ar danwydd, sychwyr solar a thechnolegau ynni glân eraill.

Hefyd mae Africa Greater Life Mission yn Llandrindod yn gweithio gyda chymuned yn Uganda i greu gweithfa bionwy ger Ysgol Gobaith Plant Wakiso. Bydd y weithfa yn defnyddio gwastraff llysiau i gynhyrchu bionwy fel tanwydd coginio yng nghegin yr ysgol.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Cymru o Blaid Affrica

Gwefannau

WalesAfrica

Tagiau

Datblygu cynaliadwy 12 Mawrth 2012 Yr Amgylchedd Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i