Bydd y safleoedd Cadw, ynghyd â thirnodau eiconig eraill megis Canolfan y Mileniwm a’r Senedd, yn diffodd eu goleuadau rhwng 8.30-9.30pm, yn rhan o fenter fyd eang i godi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol a chynaladwyedd.
Y llynedd bu cymaint ag 1.8 biliwn o bobl ledled 138 o wledydd yn cymryd rhan, yn cynnwys miloedd o bobl o Gymru, ac mae Cadw unwaith eto yn annog pobl i ymuno â’r fenter trwy gofrestru a diffodd.
Meddai Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth,
“O dreftadaeth arfordirol a morol Cymru i adeiladau a safleoedd hynafol, mae’n allweddol ein bod fel cenedl yn gweithio tuag at amgylchedd mwy gwyrdd ac yn diogelu treftadaeth amrywiol ac unigryw ein gwlad i genedlaethau'r dyfodol eu harchwilio.
“Mae tywyllu’r adeiladau eiconig hyn ar gyfer yr Awr Ddaear yn rhoi darlun teimladwy i ni o sut fydd pethau yng Nghymru os nad ydym yn ystyried ein hamgylchedd lleol.”
Meddai John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy,
“Mae Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i daclo'r heriau a gyflwynir gan newid hinsawdd ac mae’n falch i gael cefnogi’r Awr Ddaear. Bydd y goleuadau’n cael eu diffodd yn nifer o’n prif safleoedd ledled ein hystâd ac rydym yn annog cyrff sector cyhoeddus eraill yng Nghymru i wneud yr un peth.
“Rwy’n annog pobl ledled Cymru i ymuno â miliynau o bobl ledled y byd trwy ddifodd goleuadau nad ydynt yn hanfodol ar nos Sadwrn. Dyma’ch cyfle i wneud cyfraniad, waeth pa mor fach, i ddigwyddiad byd eang sy’n amlygu pryderon ynglŷn â dyfodol ein planed.”











