Bydd y Gweinidog yn mynd i’r uwch-gynhadledd fel rhan o ddirprwyaeth o’r DU ac mae’n benderfynol o ddangos i’r byd bod Cymru’n gallu gwneud cyfraniad gwerthfawr at yr ymdrechion byd-eang i fod yn fwy cynaliadwy.
Siaradodd y Gweinidog yng nghynhadledd y Sefydliad Materion Cymreig, ‘Rhoi Cymru wrth Galon Rio+20’ heno. Siaradodd am ei bryderon ynghylch cyflwr y blaned ac yn amlygu rhai o’r rhesymau pam fod angen gweithredu ar frys. Pwysleisiodd y canlynol:
- Mae biliwn o bobl ledled y byd yn dal i fynd i’r gwely’n llwglyd bob nos
- Y bobl oedd dlotaf 20 mlynedd yn ôl yw’r tlotaf o hyd
- Mae 20% o boblogaeth y byd yn dal i ddefnyddio 80% o adnoddau’r byd.
Disgwylir y bydd biliwn yn fwy o bobl ar ein planed erbyn 2025, a bydd y Gweinidog yn amlygu’r anawsterau o ran atal tlodi a chodi safonau byw heb wastraffu adnoddau naturiol y Ddaear.
Pwysleisiodd y Gweinidog mai canlyniad pwysicaf yr uwchgynhadledd, o bosibl, fydd creu Amcanion Datblygu Cynaliadwy byd-eang gan ganolbwyntio’n benodol ar ddileu tlodi. Hefyd, amlygu’r angen i fesur mwy na’r Cynnyrch mewnol Crynswth yn unig.
Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd y Gweinidog:
"Mae angen inni ddechrau mesur yr hyn sy’n cyfri ar raddfa fyd-eang – oni wnawn hynny ni fyddwn yn gallu rhoi gwir werth ar hyn na defnyddio adnoddau’r byd yn fwy cynaliadwy.
"Rhaid i Rio+20 gyflawni’r ymrwymiad i ddatblygu dangosyddion cymdeithasol ac amgylcheddol i’w defnyddio ochr yn ochr â CMC. Yng Nghymru rydym eisoes yn defnyddio pum prif ddangosydd i’n helpu ni i fesur ein cynnydd ym maes datblygu cynaliadwy. Mae Gwerth Ychwanegol Crynswth yn un ohonynt ond rydymhefyd yn mesur ein ôl troed ecolegol a’n lles cyffredinol."
Tra bydd y Gweinidog yn Rio bydd yn tynnu sylw at safbwynt Cymru ynghylch datblygu cynaliadwy a bydd yn dangos sut y mae Cymru yn arwain ynglŷn â’r mater.
Lansiodd y Gweinidog y mis hwn ymgynghoriad ynghylch cynigion ar gyfer Bil Datblygu Cynaliadwy. Byddai’r Bil hwn yn rhoi dyletswydd gyfreithiol ar sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau bod y penderfyniadau a wnânt yn seiliedig ar egwyddorion datblygu cynaliadwy.
Yn ystod yr uwchgynhadledd yn Rio bydd y Gweinidog yn cyfarfod â chymaint â phosibl o Weinidogion a Phrif Weinidogion er mwyn ceisio dysgu sut y mae gwledydd eraill yn mynd i’r afael â datblygu cynaliadwy.
Bydd yn mynychu Uwchgynhadledd y Byd o Daleithiau a Rhanbarthau Ffederal, gan hybu rhai o bolisïau arloesol Cymru fel ei gynllun effeithlonrwydd yn y cartref, Arbed.
Bydd hefyd yn trafod rhaglen Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cymru ynghyd â’r gwaith sy’n mynd rhagddo i hybu datblygiadau cynaliadwy a charbon isel mewn partneriaeth â rhanbarth Mbale yn Nwyrain Uganda.
Prosiect allweddol arall y bydd y Gweinidog yn ei hybu fydd y prosiect Maint Cymru sy’n ceisio diogelu dwy filiwn hectar o fforestydd glaw.











