Yn eu cyfarfod, bydd y gweinidogion hefyd yn trafod uwch-gynhadledd Rio+20 – cynhadledd y bydd John Griffiths yn mynd iddi’n ddiweddarach y mis hwn.
Wrth siarad am ei ymweliad â Chopenhagen, dywedodd y Gweinidog:
“Byddaf yn trafod cyfleoedd gyda Ms Auken ar gyfer gwledydd fel Denmarc a Chymru i wneud yn siŵr y bydd amcanion Rio+20 yn arwain at weithredu fydd yn helpu sefydliadau a chymunedau i fod yn fwy cynaliadwy.
“Rwyf hefyd am sicrhau bod Cymru’n parhau i arwain ar gynaliadwyedd, trwy bethau fel ein Bil Datblygu Cynaliadwy arfaethedig. Rwy’n edrych ymlaen at drafod cyfleoedd i Gymru a Denmarc rannu arferion gorau ar ddatblygu cynaliadwy.
Ym mis Mai, fe lansiodd y Gweinidog ymgynghoriad ar y cynigion ar gyfer Bil Datblygu Cynaliadwy i Gymru. Yn rhinwedd y Bil, bydd hi’n ofyniad cyfreithiol i sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru sicrhau eu bod yn ystyried egwyddorion datblygu cynaliadwy wrth wneud unrhyw benderfyniadau.
Aeth y Gweinidog yn ei flaen:
“Mae cynaliadwyedd yn ganolog i Lywodraeth Cymru. Pan fydd dewis anodd yn ein hwynebu, byddwn yn dewis yr opsiwn fydd yn rhoi’r canlyniadau hirdymor gorau posibl i bobl Cymru.
“Mae hyn yn golygu pethau fel buddsoddi mewn addysg gynnar o ansawdd uchel a gwneud hynny heddiw er mwyn ceisio osgoi caledi cymdeithasol yn nes ymlaen neu helpu aelwydydd a busnesau Cymru i ddefnyddio ynni’n fwy effeithiol fel eu bod yn barod am unrhyw gynnydd ym mhrisiau ynni yn y dyfodol.
“Drwy weithio fel hyn, rydym ni’n credu y gallwn ni wella ein lles cymdeithasol ac amgylcheddol a gwella ansawdd bywyd yng Nghymru.”
Yn ogystal â chwrdd â Gweinidog yr Amgylchedd, bydd Mr Griffiths yn cwrdd â Lone Loklindt, Cadeiryd Pwyllgor Amgylchedd Senedd Denmarc ac uwch-swyddogion o Asiantaeth yr Amgylchedd Ewropeaidd.
Cyflwyno’r Bil Datblygu Cynaliadwy yw un o gamau gweithredu’r Rhaglen Lywodraethu ar gyfer creu lleoedd cynaliadwy i bobl fyw ynddyn nhw.











