Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidog yr Amgylchedd yn trafod cynaliadwyedd gyda Llywodraeth Denmarc

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths, yn cwrdd â Gweinidog Amgylchedd Llywodraeth Denmarc, Ida Auken, i drafod pwysigrwydd gwneud cynaliadwyedd yn rhan annatod o bopeth a wnawn. Ar hyn o bryd, Llywodraeth Denmarc yw llywydd yr Undeb Ewropeaidd sy’n dylanwadu ar fywydau 450 miliwn o ddinasyddion Ewrop.
Dydd Gwener 01 Mehefin 2012

Yn eu cyfarfod, bydd y gweinidogion hefyd yn trafod uwch-gynhadledd Rio+20 – cynhadledd y bydd John Griffiths yn mynd iddi’n ddiweddarach y mis hwn.

Wrth siarad am ei ymweliad â Chopenhagen, dywedodd y Gweinidog: 

“Byddaf yn trafod cyfleoedd gyda Ms Auken ar gyfer gwledydd fel Denmarc a Chymru i wneud yn siŵr y bydd amcanion Rio+20 yn arwain at weithredu fydd yn helpu sefydliadau a chymunedau i fod yn fwy cynaliadwy.

“Rwyf hefyd am sicrhau bod Cymru’n parhau i arwain ar gynaliadwyedd, trwy bethau fel ein Bil Datblygu Cynaliadwy arfaethedig.  Rwy’n edrych ymlaen at drafod cyfleoedd i Gymru a Denmarc rannu arferion gorau ar ddatblygu cynaliadwy.

Ym mis Mai, fe lansiodd y Gweinidog ymgynghoriad ar y cynigion ar gyfer Bil Datblygu Cynaliadwy i Gymru.  Yn rhinwedd y Bil, bydd hi’n ofyniad cyfreithiol i sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru sicrhau eu bod yn ystyried egwyddorion datblygu cynaliadwy wrth wneud unrhyw benderfyniadau.

Aeth y Gweinidog yn ei flaen: 

“Mae cynaliadwyedd yn ganolog i Lywodraeth Cymru.  Pan fydd dewis anodd yn ein hwynebu, byddwn yn dewis yr opsiwn fydd yn rhoi’r canlyniadau hirdymor gorau posibl i bobl Cymru.

“Mae hyn yn golygu pethau fel buddsoddi mewn addysg gynnar o ansawdd uchel a gwneud hynny heddiw er mwyn ceisio osgoi caledi cymdeithasol yn nes ymlaen neu helpu aelwydydd a busnesau Cymru i ddefnyddio ynni’n fwy effeithiol fel eu bod yn barod am unrhyw gynnydd ym mhrisiau ynni yn y dyfodol.

“Drwy weithio fel hyn, rydym ni’n credu y gallwn ni wella ein lles cymdeithasol ac amgylcheddol a gwella ansawdd bywyd yng Nghymru.”

Yn ogystal â chwrdd â Gweinidog yr Amgylchedd, bydd Mr Griffiths yn cwrdd â Lone Loklindt, Cadeiryd Pwyllgor Amgylchedd Senedd Denmarc ac uwch-swyddogion o Asiantaeth yr Amgylchedd Ewropeaidd. 

Cyflwyno’r Bil Datblygu Cynaliadwy yw un o gamau gweithredu’r Rhaglen Lywodraethu ar gyfer creu lleoedd cynaliadwy i bobl fyw ynddyn nhw.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Y Bil Datblygu Cynaliadwy

Tagiau

Datblygu cynaliadwy 01 Mehefin 2012 Newid yn yr hinsawdd Yr Amgylchedd Programme for Government - Sustainability Ynni adnewyddadwy Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i