Cyn hir bydd y Gweinidog ar ei ffordd i gynhadledd Rio+20 y Cenhedloedd Unedig ar Ddatblygu Cynaliadwy. Yn y gynhadledd bydd arweinwyr y byd, ynghyd â miloedd o gynrychiolwyr llywodraethau, y sector preifat, cyrff anllywodraethol ac eraill, yn uno i ystyried ffyrdd o leihau tlodi byd-eang a sicrhau diogelwch amgylchedd y byd, er gwaethaf poblogaeth sy’n tyfu o hyd.
Gan siarad cyn y gynhadledd, dywedodd y Gweinidog:
“Mae cynaliadwyedd yn llawer mwy na syniad gwyrdd. Mae’n golygu datblygu’r llwybr gorau i Gymru yn y tymor hir a fydd yn arwain at ansawdd bywyd da, iach, cynaliadwy i holl bobl Cymru heddiw ac yn y dyfodol.
“Mae’n golygu ein bod, wrth wynebu dewisiadau anodd, yn dewis yr opsiwn sydd orau i ddyfodol Cymru yn y tymor hir, yn hytrach na’r opsiwn cyflymaf, rhwyddaf neu rataf.
“Pethau fel buddsoddi nawr mewn gwell addysg gynnar a chefnogaeth i deuluoedd, er mwyn atal caledi cymdeithasol, a’r holl broblemau iechyd ac economaidd a ddaw yn ei sgil, yn ddiweddarach. Neu helpu cartrefi a busnesau Cymru i arbed ynni, er mwyn iddynt fedru arbed arian a pharatoi ar gyfer y cynnydd anochel mewn prisiau yn y dyfodol.
“Rwy’n credu y bydd y ffordd hon o weithio yn ein helpu i sicrhau lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i bawb.
“Efallai bod Cymru’n wlad fach, ond rydyn ni’n hyrwyddo rhai polisïau cynaliadwyedd blaengar. Rwy’n credu bod rhaid eu bwydo i’r drafodaeth fyd-eang, a phan fyddaf yn Rio byddaf yn canfasio Llywodraethau eraill am eu barn ar ein polisïau Datblygu Cynaliadwy er mwyn ceisio’u hysgogi i gymryd camau tebyg ac er mwyn i ni i gyd ddysgu o unrhyw brofiadau perthnasol.”
Bydd y Gweinidog yn cynrychioli Cymru yng nghyfarfodydd y Grŵp Hinsawdd a Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy, rhwydweithiau rhyngwladol y mae gan Gymru ran allweddol ynddynt. Hefyd bydd yn siarad am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar argymhellion blaengar ar gyfer Bil Datblygu Cynaliadwy a phwysigrwydd defnyddio deddfwriaeth i sicrhau newid.
Mae Llywodraeth Cymru’n cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd ar gynlluniau i osod rheidrwydd cyfreithiol ar sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau bod eu penderfyniadau strategol yn ystyried egwyddorion datblygu cynaliadwy. Y nod yw sicrhau ffordd fwy cyson ac integredig o weithio er mwyn gwella canlyniadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru yn y tymor hir.
Mewn seminar ar yr economi gwyrdd bydd y Gweinidog hefyd yn arddangos rhaglen perfformiad ynni Llywodraeth Cymru, Arbed, sydd wedi gweld buddsoddiad o £66 miliwn i hybu’r economi gwyrdd ac arbed ynni mewn 7500 o gartrefi. Bydd hyn yn cael ei ategu gan ail gam Arbed, a lansiwyd yn ddiweddar, lle bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £45m i ostwng biliau tanwydd 4800 o gartrefi mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru.
Mae Arbed hefyd yn cynnig cefnogaeth werthfawr i fusnesau Cymru er mwyn iddynt fedru tendro ar gyfer cytundebau i gyflenwi a gosod y mesurau arbed ynni angenrheidiol.
Yn ystod ei ymweliad â Rio bydd y Gweinidog yn cyfarfod Gweinidogion Llywodraeth blaenllaw o Wlad y Basg, Catalonia, Quebec, Rhône-Alpes, ac Abruzzo er mwyn trafod a datblygu polisïau a fydd yn cefnogi datblygu cynaliadwy a chynnal ansawdd bywydau pobl.











