Mae hyn yn dilyn ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ddatblygu newidiadau i Reoliadau Adeiladu ar gyfer anheddau newydd, gan weithio tuag at welliant o 55% mewn perfformiad defnyddio ynni'n effeithlon erbyn 2013.
Mae Rheoliadau Adeiladu yn dylanwadu ar leihau allyriadau mewn adeiladau newydd a phresennol yng Nghymru. Mae safonau gwell yn sicrhau bod adeiladau yn defnyddio ynni'n fwy effeithlon ac felly’n lleihau'r galw am ynni a biliau ynni i gwsmeriaid.
Bydd safonau uwch yn hybu cyfleoedd gwaith gwyrdd yng Nghymru. Yn ogystal â bod o fudd uniongyrchol i gyflenwyr a’r rheini sy’n gosod, bydd safonau newydd yn darparu cyfleoedd i gwmnïau Cymru ac yn annog datblygiad hyfforddiant a sgiliau.
Meddai John Griffiths:
“Rydym eisiau gwella perfformiad ynni adeiladau yng Nghymru. Bydd codi safonau drwy Reoliadau Adeiladu yn ein helpu i symud tuag at adeiladau newydd di-garbon fydd o help i gefnogi ein hymrwymiad i leihau allyriadau yn yr amgylchedd adeiledig. Mae ein cynigion a amlinellir yn yr ymgynghoriad hwn yn gam arwyddocaol tuag at yr amcan yna. Wrth ddatblygu ein cynigion rydym wedi bod yn ymwybodol o’r sefyllfa economaidd a wynebir gan y diwydiant tai ac adeiladu; rwy’n credu bod y cynigion yn adlewyrchu cydbwysedd rhwng yr angen i ddilyn amcanion hirdymor wrth ganiatáu amser ar gyfer adferiad. Rwy’n annog cwmnïau adeiladu, pobl sy’n gweithio yn y diwydiant a chyrff sy’n cynrychioli’r diwydiant i ymateb i’r ymgynghoriad.”
Mae’r ymgynghoriad yn amlinellu newidiadau arfaethedig i Ran L (Arbed Tanwydd ac Ynni) y Rheoliadau Adeiladu ynghyd â phecyn o ddewisiadau lliniaru sy’n cynnwys tynnu yn ôl y Cod Cartrefi Cynaliadwy, polisi adeiladu BREEAM a TAN 22 yn unol â chyflwyniad graddol y rheoliadau newydd.











