Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Lansio ymgynghoriad ar gyfer Rheoliadau Adeiladu syml a gwyrdd

Mae'r Gweinidog Amgylchedd, John Griffiths, wedi lansio ymgynghoriad ar gyfer symleiddio ac adolygu safonau Rheoliadau Adeiladu ar gyfer adeiladau domestig ac annomestig newydd a phresennol.
Dydd Mawrth 31 Gorffennaf 2012

Mae hyn yn dilyn ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ddatblygu newidiadau  i Reoliadau Adeiladu ar gyfer anheddau newydd, gan weithio tuag at welliant o 55% mewn perfformiad defnyddio ynni'n effeithlon erbyn 2013.  

Mae Rheoliadau Adeiladu yn dylanwadu ar leihau allyriadau mewn adeiladau newydd a phresennol yng Nghymru. Mae safonau gwell yn sicrhau bod adeiladau yn defnyddio ynni'n fwy effeithlon ac felly’n lleihau'r galw am ynni a biliau ynni i gwsmeriaid.

Bydd safonau uwch yn hybu cyfleoedd gwaith gwyrdd yng Nghymru. Yn ogystal â bod o fudd uniongyrchol i gyflenwyr a’r rheini sy’n gosod, bydd safonau newydd yn darparu cyfleoedd i gwmnïau Cymru ac yn annog datblygiad hyfforddiant a sgiliau.

Meddai John Griffiths:

“Rydym eisiau gwella perfformiad ynni adeiladau yng Nghymru. Bydd codi safonau drwy Reoliadau Adeiladu yn ein helpu i symud tuag at adeiladau newydd di-garbon fydd o help i gefnogi ein hymrwymiad i leihau allyriadau yn yr amgylchedd adeiledig. Mae ein cynigion a amlinellir yn yr ymgynghoriad hwn yn gam arwyddocaol tuag at yr amcan yna. Wrth ddatblygu ein cynigion rydym wedi bod yn ymwybodol o’r sefyllfa economaidd a wynebir gan y diwydiant tai ac adeiladu; rwy’n credu bod y cynigion yn adlewyrchu cydbwysedd rhwng yr angen i ddilyn amcanion hirdymor wrth ganiatáu amser ar gyfer adferiad. Rwy’n annog cwmnïau adeiladu, pobl sy’n gweithio yn y diwydiant a chyrff sy’n cynrychioli’r diwydiant i ymateb i’r ymgynghoriad.”

Mae’r ymgynghoriad yn amlinellu newidiadau arfaethedig i Ran L (Arbed Tanwydd ac Ynni) y Rheoliadau Adeiladu ynghyd â phecyn o ddewisiadau lliniaru sy’n cynnwys tynnu yn ôl y Cod Cartrefi Cynaliadwy, polisi adeiladu BREEAM a TAN 22 yn unol â chyflwyniad graddol y rheoliadau newydd.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Adolygiad Rheoliadau Adeiladu Rhan L

Tagiau

Datblygu cynaliadwy 31 Gorffennaf 2012 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i