Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Ymgyrch Croeso Cymru yn dathly rhinweddau gwyliau yn yr hydref

Mae Croeso Cymru, tîm twristiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, wedi datgelu ei gynlluniau i ddenu ymwelwyr i Gymru i fwynhau'r ystod o weithgareddau awyr agored, gwyliau bwyd a chrefft a digwyddiadau traddodiadol eraill yr hydref sy'n rhan annatod o fywyd Cymru yr adeg hon o'r flwyddyn.
Dydd Gwener 31 Awst 2007

Bydd yr ymgyrch, sy'n cynnwys hysbysebion teledu, wedyn hysbysebion yn y wasg, post uniongyrchol a hyrwyddo ar-lein, yn dechrau ar 3 Medi.

Meddai Rhodri Glyn Thomas, y Gweinidog dros Dreftadaeth yn Llywodraeth Cynulliad Cymru:

Mae ymchwil yn dweud wrthym fod mwy o bobl yn dewis gwyliau byr drwy gydol y flwyddyn yn hytrach na gwyliau byr yn yr haf. Mae'r hydref yn dod yn boblogaidd iawn fel adeg i fynd ar wyliau byr. Mae twf hwn mewn gwyliau yn yr hydref yn helpu i leihau effaith y natur dymhorol, yn ogystal â gwneud cyfraniad gwerthfawr i refeniw twristiaeth lleol. Rwy'n credu y bydd yr ymgyrch hon yn cyflawni ei nod, sef denu mwy o bobl ar wyliau byr yng Nghymru o bedair prif ardal darged yn Lloegr.

Mae'r ymgyrch yn seiliedig ar yr hysbysebion a enillodd lu o wobrau'r llynedd. Dangosodd ymchwil eu bod wedi creu tua £180 miliwn yn fwy o refeniw i economi Cymru, gan annog darpar ymwelwyr i fwcio lle gwyliau yng Nghymru ac i eraill aros yng Nghymru am fwy o amser.

Prif elfen yr ymgyrch farchnata hon oedd yr ymgyrch yn y DU, a arweiniodd at gynnydd o £80 miliwn mewn refeniw. Yn ogystal, arweiniodd marchnata ar weithgareddau - fel cerdded, beicio mynydd a physgota - at £35 miliwn arall.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Twristiaeth

Tagiau

Twristiaeth 31 Awst 2007
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i