Yn ogystal â chael ei dywys o amgylch y pentref gwyliau a pharc dŵr y Blue Lagoon, cafodd y Gweinidog graffu’n agosach ar egwyddorion gwyrdd y Garreg Las drwy ymweld â’r Ganolfan Ynni unigryw.
Mae egwyddorion datblygu cynaliadwy yn ganolog i’r datblygiad. Mae’r Garreg Las yn defnyddio biomas fel ffurf ar ynni adnewyddadwy, sy’n niwtral o ran carbon. Caiff Blue Lagoon, y clwb chwaraeon a’r swyddfeydd i gyd eu gwresogi drwy fiomas, ar ffurf miscanthus (hesg eliffant) a naddion pren sy’n cael eu tyfu gan ffermwyr lleol. Mae defnyddio biomas i’r diben hwn ac ar y raddfa hon yn unigryw.
Caiff y ganolfan ynni ei gweithredu gan gwmni o’r enw PBESCO, sy’n deillio o gwmni Bio-Ynni Sir Benfro (PBE), cwmni cydweithredol o ffermwyr sydd, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, wedi bod yn tyfu miscanthus a chnydau ynni eraill i baratoi ar gyfer datblygiad y Garreg Las.
Ffermwr tir âr a da byw yw Paul Ratcliffe, cyfarwyddwr PBESCO, ac mae ei dir yn ffinio â safle’r Garreg Las. Bu’n gweithio ar y prosiect ers 2002, pan ofynnodd William McNamara, prif weithredwr y Garreg Las, iddo ymchwilio i’r posibilrwydd o dyfu cnydau ynni.
Dywedodd Paul Ratcliffe:
Mae’n bwysig bod y tyfwyr hefyd yn cymryd rhan yn y broses o gynhyrchu ynni, am resymau technegol ac ariannol. Y nod yw i’r ffermwyr a’r tyfwyr gadw rheolaeth. Heb ddyn canol, mae’r arian i gyd yn aros yn y gymuned leol.
Dywedodd Alun Ffred Jones:
Rwy wrth fy modd fy mod i wedi gallu ymweld â’r Garreg Las heddiw a chwrdd â’r tîm sydd wedi gwireddu’r freuddwyd hon. Mae’r ethos cynaliadwy sy’n ganolog i’r Garreg Las yn rhywbeth i’w gymeradwyo ac arwy’n gobeithio y gallwn ni ddatblygu’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru a gwneud cynaliadwyedd yn norm yn hytrach nag yn eithriad. Does dim ffordd arall ymlaen. Rwy’n dymuno’r gorau i William a’i dîm yn ystod eu blwyddyn gyntaf o fasnachu.
Dywedodd William McNamara, prif weithredwr y Garreg Las:
Rydym yn cymryd ein ymrwymiad i gyfrifoldeb am yr amgylchedd o ddifrif, ond mae yna hefyd lawer o agweddau eraill i gynaliadwyedd. I mi, y mae’r cyfraniad ariannol y mae’r Garreg Las yn ei wneud i gyfoeth y Sir yn un o agweddau mwyaf boddhaol y cynllun.
Oherwydd y Garreg Las, mae dyfodol economaidd y Sir yn llawer mwy disglair, ac y mae hyn yn ogystal â’r cyfrifoldeb am yr amgylchedd yn rhywbeth sydd yn rhoi boddhad cyson i mi.
18 Medi 2008











