Bydd Senedd y DU yn craffu ar ffurf ddrafft y Mesur Diogelu Treftadaeth ei Senedd y DU a dyma’r mesur cyntaf sy’n ymwneud â’r amgylchedd hanesyddol ers cenhedlaeth. Nod y mesur yw sefydlu system unedig i ddiogelu treftadaeth Cymru a Lloegr sy’n haws ei deall na’r gwahanol systemau presennol ar gyfer rhestru adeiladau, cofrestru henebion, dynodi llongddrylliadau a chofrestru parciau, gerddi a thirweddau hanesyddol. Y nod hefyd yw bod yn fwy effeithiol, atebol a thryloyw, gyda gwell cyfleoedd i gynnwys y cyhoedd.
Wrth wraidd y cynigion mae Cofrestr unedig newydd o Asedau Treftadaeth Cymru, a fydd ar gael ar-lein ac a fydd, am y tro cyntaf, yn cadw mewn un lle yr holl wybodaeth sydd ar gael am yr holl asedau treftadaeth tir a môr sydd o ddiddordeb arbennig yng Nghymru.
Meddai’r Gweinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas:
Mae gan Gymru amgylchedd hanesyddol cyfoethog ac amrywiol. Mae’n un o’n hasedau pennaf ac mae’n hanfodol ein bod yn ei ddiogelu er mwyn i ninnau - a chenedlaethau yn y dyfodol - ddeall a gwerthfawrogi ein treftadaeth unigryw yn well. Rwy’n croesawu cyhoeddi’r mesur drafft hwn sy’n golygu bod y modd yr eir ati i ddiogelu treftadaeth yn ateb gofynion yr 21ain ganrif, gyda mwy o atebolrwydd a mwy o ran i’r gymuned. Mae ei fframwaith hyblyg yn caniatáu ar gyfer dulliau gwahanol o weithredu yng Nghymru er mwyn ystyried yr arferion a’r amgylchiadau sy’n wahanol yma.
Yn ogystal â’r Gofrestr unedig o Asedau Treftadaeth, mae’r Mesur drafft yn cynnwys cynlluniau i:
- ddatganoli’r cyfrifoldeb dros y system ddynodi yn Lloegr o’r adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i English Heritage; yng Nghymru bydd dynodi’n dal i fod yn gyfrifoldeb i Weinidogion Cymru
- cyflwyno system o gofrestru dros dro er mwyn rhoi ‘diogelwch dros dro’ i asedau hanesyddol, gan gynnwys asedau hanesyddol y môr, wrth iddynt gael eu hystyried ar gyfer eu dynodi, a chreu apelau neu weithdrefnau adolygu newydd yn erbyn dynodi
- cyflwyno system newydd o dystysgrifau i nodi nad oes bwriad cofrestru – i bara o leiaf bum mlynedd
- rhoi’r amgylchedd hanesyddol wrth wraidd y system gynllunio wrth gyfuno caniatâd ar gyfer adeiladau rhestredig â chaniatâd ar gyfer henebion cofrestredig a chreu un system newydd ar gyfer Caniatâd Asedau Treftadaeth, a chyfuno caniatâd ardal gadwraeth â chaniatâd cynllunio
- ei gwneud yn ddyletswydd ar awdurdodau lleol i gynnal Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (HER), a
- diwygio cyfundrefn diogelu treftadaeth y môr yng Nghymru a Lloegr, drwy ehangu’r ystod o asedau hanesyddol y môr y mae modd eu hamddiffyn.
- Yng Nghymru, bydd y Mesur drafft yn ceisio rhoi swyddogaethau cyfatebol i Weinidogion Cymru i’r rhai sy’n cael eu rhoi i’r Gweinidog Gwladol a/neu i English Heritage yn Lloegr (heblaw lle mae darpariaeth i’r Gweinidog Gwladol gydweithio ag English Heritage).
- Un gwahaniaeth allweddol yn achos Cymru yw’r rhwydwaith unigryw o bedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol sy’n rhoi cyngor i awdurdodau lleol ac eraill am faterion archeolegol. Prin iawn yw’r awdurdodau lleol yng Nghymru sydd ag arbenigedd penodol ym maes archaeoleg. O’r herwydd, mae’r Mesur drafft yn cynnig fframwaith i alluogi Gweinidogion Cymru i barhau i drin ceisiadau am ganiatâd sy’n effeithio ar henebion a fu gynt yn gofrestredig. Y bwriad hefyd yw galluogi Gweinidogion Cymru, ar ran yr awdurdod lleol, i gychwyn Cytundeb Partneriaeth Treftadaeth gyda pherchnogion asedau treftadaeth.
Ebrill 2, 2008











