Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cynaliadwyedd - asgwrn cefn datblygu twristiaeth

Dydd Mawrth 17 Mehefin 2008

Heddiw, yn ystod trafodaeth yn y cyfarfod llawn, roedd y Gweinidog Treftadaeth Rhodri Glyn Thomas yn pwysleisio pwysigrwydd cynaliadwyedd wrth fynd ati i ddatblygu’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru ac fe amlinellodd y camau gweithredu mae Llywodraeth Cynulliad Cymru am eu cymryd i roi ymrwymiadau Cymru’n Un ar waith i ddatblygu manteision twristiaeth gynaliadwy er mwyn creu swyddi, hyfforddiant a’r economi.

Dywedodd y Gweinidog dros Dreftadaeth:

Mae twristiaeth, yn fwy nag un diwydiant arall efallai, yn dibynnu’n fawr ar gyflwr ein hamgylchedd naturiol.  Mae ansawdd da amgylchedd adeiledig a naturiol Cymru, a’i gymeriad unigryw, yn hanfodol i’r diwydiant twristiaeth.  I sicrhau bod twristiaeth yn ffynnu, mae’n hanfodol i ni ddiogelu a gwella’r asedau unigryw y daw ymwelwyr yma i’w mwynhau.  Bydd cydnabod potensial yr amgylchedd yn flaenoriaeth allweddol bob amser wrth ddatblygu twristiaeth; ac er mwyn bod yn gynaliadwy, rhaid i effaith ymwelwyr ar yr amgylchedd gael ei rheoli’n dda er lles cenedlaethau’r dyfodol.

Bydd diogelu ansawdd amgylchedd adeiledig a naturiol Cymru yn flaenoriaeth allweddol wrth ddatblygu twristiaeth.  Er hynny, mae twristiaeth gynaliadwy yn golygu mwy na bod yn ‘wyrdd’.  Rhaid iddi hefyd fynd i’r afael â materion cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol.  I fod yn gynaliadwy, bydd yn rhaid i dwristiaeth ystyried anghenion ac ansawdd bywyd cymunedau lleol, hyrwyddo a pharchu diwylliant a thraddodiadau lleol, a chyfrannu at yr economi leol - yn ogystal â chadw unrhyw effaith ar yr amgylchedd i lefel isel.

Lansiwyd y Fframwaith Twristiaeth Gynaliadwy ym mis Tachwedd 2007 ac fe sefydlwyd fforwm o sefydliadau partner i fynd â’r agenda ar dwristiaeth gynaliadwy yn ei blaen.

Fe amlinellodd y Gweinidog weithgareddau sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol yn barod i hybu elfennau o dwristiaeth gynaliadwy yng Nghymru.  Ymysg y prosiectau hyn mae Croeso Cymru yn gweithio gyda'i bartneriaid sy’n cynnwys Cadw, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd i ddatblygu dau brosiect EU sy’n canolbwyntio ar dwristiaeth gynaliadwy yng Nghymru; rhoi cymorth parhaus i’r Bartneriaeth Môr Glas, sydd â’r nod o ddiogelu a gwella amgylchedd arfordirol Cymru, gan gynnwys cynyddu nifer y Baneri Glas a’r gwobrau Arfordir Glas a ddyfarnwyd.  Eleni, dyfarnwyd Baner Las i 42 o’n traethau o’i gymharu â dim ond 12 yn 1999.  

Yn ogystal â hyn, mae Croeso Cymru wedi rhoi cymorth parhaus i sefydliadau fel Cadwch Gymru’n Daclus, Rhwydwaith Arena a Chymru yn ei Blodau.  Eleni, roedd Croeso Cymru yn rhoi cymorth i Ŵyl y Gelli.  Gwnaethant gefnogi cynllun i dreialu system rheoli digwyddiadau newydd y Safon Brydeinig, a fydd yn arwain at greu pecyn cymorth i reoli digwyddiadau cynaliadwy.  

Cafodd y Gweinidog dros Dreftadaeth y cyfle i gyhoeddi fod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi llwyddo i ddiogelu £4.2 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer rhaglen farchnata Croeso Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.  Mae’r cyllid hwn ar gael trwy raglen Amcan Un o ganlyniad i gyfradd gyfnewid yr Ewro / y Bunt.  Bydd y cyllid ychwanegol yn rhoi hwb sylweddol i ymgyrchoedd Haf a Hydref y DU, a bydd Croeso Cymru yn gallu ehangu rhai o’u hymgyrchoedd rhyngwladol.  Bydd hefyd yn caniatáu cynnal ymgyrch lawer mwy nag a ragwelwyd yn y DU ym mis Ionawr, er mwyn rhoi hwb i archebion cynnar ar gyfer 2009.

Dyma rai enghreifftiau rhagorol o arferion twristiaeth gynaliadwy yng Nghymru:

Bu’r canlynol yn fuddugol yng Ngwobrau Twristiaeth Gwyrdd Eryri 2008 yn ddiweddar:

  • Y Busnes Twristiaeth Gynaliadwy Gorau – Trigonos, canolfan breswyl ysbrydoledig yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri.  
  • Y Gwely a Brecwast mwyaf cynaliadwy - Y Goeden Eirin, ger Caernarfon
  • Gwobr Busnes Twristiaeth Gynaliadwy am Gynnwys Cymunedau a Chyfrifoldeb Cymdeithasol - Caban Cyf, Caernarfon
  • Y Llety Hunanddarpar mwyaf Cynaliadwy - Yr Hen Stablau, Pantlludw, Machynlleth.  

Enillydd Gwobrau Rhwydwaith Busnes a Chynaliadwyedd ARENA oedd busnes Gwely a Brecwast y Wern i Farchogwyr a’u ceffylau.  Mae’r Wern yn arlwyo ar gyfer pobl sy’n dymuno dod â’u ceffylau gyda hwy ar eu gwyliau.

Hefyd, llwyddodd cwmni Under the Thatchi gyrraedd y rhestr fer.

Mehefin 17, 2008

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Twristiaeth Datblygu cynaliadwy

Tagiau

Twristiaeth 17 Mehefin 2008
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Gorffennaf 2012
Ll M M I G S S
<< Meh   Aws >>
            1
2 3 4 5 6 7 8
9 10 11 12 13 14 15
16 17 18 19 20 21 22
23 24 25 26 27 28 29
30 31          
I'n dilyn ni trowch i