Mae enw da gan fwyd a diod o Gymru ers tro am eu natur unigryw a’u safon, a bellach mae modd cael blas arnynt drwy fynd i Neuadd Fwyd Cymru yn Howells Caerdydd.
Un o ymrwymiadau allweddol Cymru’n Un oedd rhoi menter flaenllaw ar waith ar gaffael bwyd lleol. Cyflawnwyd hyn ym mis Ebrill 2009 gyda lansio Cynllun Gweithredu Strategol ar Brynu Lleol – Bwyd a Diod o Gymru. Hefyd ym mis Ebrill, lansiwyd y Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Diben y Cynllun yw gwella’r canfyddiad o Gymru fel lle y mae bwyd unigryw o safon ar gael ym mhob caffi, bwyty, tafarn, gwesty a thŷ llety.
Meddai Elin Jones:
“Mae’n briodol, ddwy flynedd ers i Lywodraeth Cynulliad Cymru bennu’i hymrwymiad i gaffael bwyd a diod lleol, fy mod yma i agor Neuadd Fwyd Cymru ym mhrifddinas Cymru.
“Ym mis Ebrill eleni, lansiais ein Cynllun Gweithredu Strategol ar Brynu Lleol i helpu cwmnïau bwyd a diod o Gymru i gyrchu marchnadoedd lleol. Mae hefyd yn ceisio’i gwneud yn haws i ddefnyddwyr brynu bwyd a diod sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru.
“Mae llawer o fanteision i brynu’n lleol. Mae gennym ystod o gynnyrch lleol o safon uchel, ond hefyd gall defnyddwyr weld tarddiad eu bwyd a chael sicrwydd ynghylch dulliau cynhyrchu a lles anifeiliaid.
“Mae prynu’n lleol hefyd yn lleihau taith bwyd ac yn ein helpu i leihau allyriadau carbon yn unol â’n hymrwymiadau ar y newid yn yr hinsawdd. Un fantais arall yw bod hyn yn ailfuddsoddi arian yn ein cymunedau, rhywbeth sy’n hanfodol yn yr hinsawdd economaidd gyfredol.”
Yn ogystal ag agor Neuadd Fwyd Cymru yn Howells Caerdydd, yn ddiweddar aeth y Gweinidog i weld cynhyrchwyr a siopau bwyd ledled Cymru, gan gynnwys cwmni Caws Teifi yn Llandysul sydd wedi ennill nifer o wobrau, Wythnos Bysgod Sir Benfro, Hufenfa Llandyrnog yn Sir Ddinbych a Ty-Talgarth Organics ym Mro Ogwr.
Mae ystod eang o gynnyrch buddugol Gwobrau Gwir Flas Cymru ar gael yn y Neuadd Fwyd, gan gynnwys Whisgi Penderyn, Seidr Gwynt y Ddraig, Cwrw Penlon a Gwinoedd Celtic Country. Mae caws buddugol ar gael hefyd, gyda chynnyrch ar gael gan Gwmni Caws Eryri, Cwmni Caws Sir Gâr a Caws Cenarth.
1 Gorffennaf 2009











