Meddai Prif Weinidog Cymru:
“Bydd unrhyw un sy’n deall hanes cymhleth y Deyrnas Unedig yn gwerthfawrogi’r eironi rhyfeddol bod gêm gartref Lloegr yn cael ei chwarae yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru, yn Stadiwm newydd SWALEC. Tarodd Robert Croft, un o gapteiniaid blaenorol Morgannwg a chwaraewr Prawf Lloegr, yr hoelen ar ei phen pan ddywedodd “Pan fydd chwaraewr criced o Gymru yn cael ei ddewis i chwarae i Forgannwg, mae hynny’n gyfartal â chwarae dros Gymru mewn pêl-droed neu rygbi. Pan gewch chi eich dewis i chwarae dros Loegr mewn criced, mae hynny’n gyfartal â chael eich dewis i chwarae i’r Llewod mewn rygbi!”
“Byddwn ni yng Nghymru yn rhoi’r un croeso cynnes i’r byd criced ag yr ydyn ni wedi’i roi i’r byd pêl-droed ar gyfer Cwpan yr FA sawl gwaith, ac ag y byddwn ni’n ei roi i’r byd golff pan ddaw Cwpan Ryder i Gymru mewn 15 mis.
“Mae gyda ni yng Nghymru safbwynt gwahanol o ran lle y dylid cynnal digwyddiadau chwaraeon mawr. Rydyn ni am weld cefnogwyr chwaraeon yn cael eu croesawu nid yn y maestrefi allanol, lle maen nhw’n gorfod teithio i ganol y ddinas er mwyn mwynhau’r cyfleusterau hamdden, siopa a bwyta. Mae chwaraeon mor bwysig i ni yng Nghymru, felly mae gyda ni stadia mawr fel Stadiwm y Mileniwm yng nghanol y ddinas, drws nesaf i’r bariau, tafarnau, clybiau a thai bwyta sydd ar gael yng nghanol y ddinas – llefydd sydd â lle, gyda’i gilydd, i 50,000 o bobl. Gwaith 10 munud o gerdded o ganol y dref yw cyrraedd Stadiwm SWALEC, ond dyna daith gerdded - trwy ardd goed a gerddi blodau hyfryd ar hyd glannau Afon Taf, trwy Gastell Caerdydd, man poblogaidd i dwristiaid ynddo’i hun, ac yn syth i’r ganolfan siopa.
“Dyna natur unigryw lleoliad newydd y gemau hyn. Mae’n wyrdd o ran y parcdir o amgylch, ac mae’n wyrdd yn amgylcheddol hefyd oherwydd ei leoliad canolog. Gallwch hyd yn oed fynd ar fws dŵr ar hyd Afon Taf i Fae Caerdydd a’r ochr draw i Benarth.
“Mae’r stadiwm yn briodol ar gyfer achlysur criced mawr a pharti gwych i’n holl westeion o Awstralia a Seland Newydd, boed o Dde Cymru Newydd, Victoria, De Awstralia, Queensland, Gorllewin Awstralia, Tasmania neu Diriogaeth y Gogledd. I wrth-droi croeso Awstralia i Gwpan Byd Rygbi 2003 – “Rydyn ni wedi rhoi’r cig eidion Cymreig gorau ar y barbiciw, ac mae’r caniau o Brains a Felinfoel ar agor gyda ni. Nawr ble rydych chi?”
8 Gorffennaf 2009











