Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ledled y wlad Dydd Sadwrn y 25ain a Dydd Sul y 26ain o Orffennaf fydd yn rhoi cyfle i weld celf, diwylliant a chwaraeon ar eu gorau a dathlu tair blynedd nes bydd y Gemau Olympaidd yn cael eu cynnal yn Llundain yn 2012.
Bydd y gweithdai, sydd am ddim, yn cynnig cyfle i bobl o bob oed a gallu i edrych ymlaen at y gemau gyda’i gilydd, tra ar yr un pryd yn rhoi cynnig ar rywbeth newydd trwy ystod eang o weithgareddau creadigol. Dros y penwythnos bydd digwyddiadau yng Nghastell Caernarfon a Chastell Dinbych yng ngogledd Cymru; Castell Caerffili a Gwaith Haearn Blaenafon yn y de ac Oriel y Parc yn Nhŷ Ddewi, a Chastell Talacharn a Neuadd Gymunedol Talacharn yn y gorllewin.
Mae’r digwyddiadau yn rhan o fenter Crochan a Ffwrnais a ysbrydolwyd gan yr Olympiad Diwylliannol sy’n bartneriaeth rhwng Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru dan nawdd Cronfa Waddol y DU. Ymysg y gweithgareddau lliwgar fydd yn cael eu cynnal bydd gweithdai celf cymunedol, dawns a cherddoriaeth a gweithgareddau crefftau creadigol.
Bydd ysgolion o ardal Caernarfon yn dathlu Penwythnos Agored yr Olympiad Ddiwylliannol gyda gorymdaith o amgylch Caernarfon ar ddydd Sadwrn, 25ain Gorffennaf am 10 y bore. Yn ystod Diwrnod Dathlu Cynllun Cyhwfan, sydd wedi ei gydlynu gan Gelfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd, bydd disgyblion o ysgolion lleol, sef Ysgol Llandwrog, Ysgol Bontnewydd ac Ysgol Y Felinheli, yn arddangos y baneri lliwgar maent wedi eu cynllunio a’u creu dan arweiniad yr artist Catrin Williams. Bydd seremoni cyflwyno’r baneri, yng nghwmni y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, yn cael ei gynnal yn y castell. Bydd cyfle hefyd i’r teulu cyfan ddysgu mwy am gerddoriaeth drwm yng ngweithdy Samba Bangor.
Bydd amryw o weithgareddau yng Nghastell Dinbych dydd Sadwrn, 25ain o Orffennaf (2 – 5 y pnawn) gan gynnwys seswin adrodd stori gyda Michael Harvey, dangosiad o ffilm wedi ei hanimeiddio gan Sean Harris a gweithdai celf.
Fe fydd y Neuadd Fawr yng Nghastell Caerffili yn llawn digwyddiadau dros y penwythnos gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Prif Weinidog Rhodri Morgan yn cynnal diwgyddiad dwy awr ar ddydd Gwener 24 Gorffennaf rhwng 10 y bore a 12 y Prynhawn.
Dros y penwythnos yn Neuadd Fawr Castell Caerffili, dydd Gwener 24ain (11 -12pm) a dydd Sadwrn 25ain a dydd Sul 26ain o Orffennaf (11am - 5pm), bydd cyfle i weld yr artistiaid Beth Sanders ac Alice Smith yn creu tarianau canoloesol ac i fod yn greadigol mewn gweithdai i’r cyhoedd, pan fydd cyfle i greu tlysau allan o ffelt wedi eu hysbrydoli gan dariannau canoloesol y neuadd. Yn ogystal bydd yr artistiaid Jane Taylor ac Amy Ison yn gweithio yn y Neuadd Fawr yn ystod yr un penwythnos yn creu dwy faner anferth!
Beth am gymryd rhan yr un penwythnos yn y gweithdai i’r cyhoedd yn castio efydd, ceramig a phiwter yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon (10 – 4 y pnawn, Dydd Sadwrn 25ain a dydd Sul 26ain)? Bydd y gwaith gorffenedig i’w weld yn y Ganolfan Dreftadaeth. Neu cewch fwynhau perfformiadau gan Grŵp Dawns Shift a disgyblion o Ysgol Gynradd Hillside yng Ngwaith Haearn Blaenafon, yn ogystal â Chôr Cymunedol Trefethin dydd Sadwrn, 25ain Gorffennaf (12-3 y pnawn) .
Dewch i ymuno gyda’r artist Shellie Holden yn ei gweithdy tecstilau, pan fydd yn creu baneri addurniadol anferth gan ddefnyddio technegau printio wedi'u hysbrydoli gan Gastell Talacharn yn Neuadd Gymunedol Talacharn a’r Tŷ Haf yng Nghastell Talacharn (11 y bore – 5 y prynhawn dydd Sadwrn 25ain a dydd Sul 26ain). Bydd cwmni animeiddio Cinetig yn cynnal gweithdai animeiddio gyda phobl ifanc o Glwb Ieuenctid Talacharn dros yr un penwythnos yn Neuadd Gymunedol Talacharn.
Yn Oriel y Parc, Tŷ Ddewi, Sir Benfro (10 y bore – 4 y pnawn dydd Sadwrn 25ain a dydd Sul 26ain), bydd sefydliad celfyddydau cymunedol ‘SpacetoCreate’ yn cynnal prosiect celfyddydau cymunedol, wedi’i ysbrydoli gan bennau a chyrff yr anifeiliaid cerrig yn Llys yr Esgob, ac yn cynnal cyfres o weithdai creu mwgwd.
Yn ôl Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth:
“Rwy’n edrych ymlaen at ymweld â Chastell Caernarfon ar y 25ain o Orffennaf ac yn falch iawn fod Cadw a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi bod yn cyd-weithio ar y rhaglen Olympiad Diwylliannol.
“Nod y rhaglen uchelgeisiol hon o ddigwyddiadau a gweithgareddau yw gweithio gyda phlant a phobl ifanc Cymru a’u hysbrydoli i sicrhau etifeddiaeth barhaol y tu hwnt i’r pedair blynedd nesaf a thu hwnt i’r Gemau Olympaidd eu hunain. Y gobaith yw y bydd y rhaglen yn creu cynnwrf yng nghymunedau Cymru ac yn cyflwyno gwerthoedd y Gemau Olympaidd i’n cymunedau ieithyddol a diwylliannol amrywiol.”
16 Gorffennaf 2009











