Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Archwilio treftadaeth gudd Cymru – yn rhad ac am ddim

Os ydych chi’n rhywun sydd â diddordeb yn yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i ddrysau caeëdig, yn hoffi cael cipolwg ar dai pobl neu’n meddwl tybed sut beth fyddai byw mewn oes arall – Medi yw’r mis perffaith i chi!
Dydd Gwener 28 Awst 2009
Alun Ffred Jones AC y Gweinidog dros Dreftadaeth

Mae Cymru’n ymbaratoi ar gyfer ei hachlysur di-dâl mwyaf erioed i ddathlu pensaernïaeth a threftadaeth ddiwylliannol ym mis Medi. Bydd nifer fwy nag erioed o safleoedd hanesyddol, boed wedi’u cau i’r cyhoedd fel arfer neu sydd fel rheol yn codi tâl, yn agor eu drysau yn rhad ac am ddim ar adegau penodol yn ystod Medi ar gyfer Drysau Agored – Dyddiau Treftadaeth Ewropeaidd.

Bydd Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn agor henebion ledled Cymru ac yn gwahodd y cyhoedd i archwilio Hafoty, Llansadwrn a siambr gladdu Barclodiad y Gawres ar Ynys Môn a Phorth Mawr, i enwi ond tri o’r safleoedd.

Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru sydd wedi trefnu Drysau Agored ym mis Medi gyda chymorth Cadw fel rhan o Ddyddiau Treftadaeth Ewropeaidd. Mae’n ddathliad blynyddol o hanes, pensaernïaeth a diwylliant. Fel rhan o’r dathliadau, bydd nifer o adeiladau ledled Cymru o bob oed, dull, cyfnod a swyddogaeth ar agor am ddim i’r cyhoedd, o gestyll i ffatrïoedd, a neuaddau tref i ysguboriau degwm ac eglwysi plwyf.

Hafoty

Mae Hafoty, Llansadwrn ar agor rhwng 12 a 4pm ar Awst 16, 23, 30 a phob penwythnos ym mis Medi (5 a 6, 12 ac 13, 19 ac 20 Medi) rhwng 12 a 4pm. Bydd tywysydd ar gael ar y dyddiau hyn i ateb cwestiynau a chynnal teithiau yn ôl y gofyn.

Adeilad ag iddo ffrâm bren oedd Hafoty yn wreiddiol, y tŷ canoloesol cain, ac ychwanegwyd cerrig ato yn nes ymlaen. Fwy na thebyg cafodd ei adeiladu gan y teulu Norres cyn ei drosglwyddo i’r Bulkeleys ym 1511.

Barclodiad y Gawres

Mae siambr gladdu Neolithig Barclodiad y Gawres, i’r gogledd-orllewin i Aberffraw ar lwybr arfordirol Ynys Môn, yn enghraifft o fedd cyntedd ar ffurf croes, sy’n enwog am ei cherrig addurnedig. Bydd yr heneb eithriadol, a ymddangosodd yn ddiweddar yn y prosiect ffilmiau wedi’u hanimeiddio, prosiect arloesol Caneuon y Cerrig ar agor i ymwelwyr fynd i mewn bob penwythnos tan ddiwedd Hydref. Ewch i wefan Caneuon y Cerrig am ragor o wybodaeth.  Mae modd mynd at y tu allan i’r heneb drwy gydol y flwyddyn rhwng 10.00 a 16.00. Gall ymwelwyr fynd ar daith dywys o’r safle ddydd Sadwrn 5 Medi (rhwng 10.30am a 1.30pm) a ddydd Sul 6 Medi (rhwng 12 a 4pm).

Porth Mawr

Porth Mawr, Caernarfon, a elwir hefyd yn Borth y Dwyrain neu Borth y Trysorlys, ac iddo ddau dŵr, oedd y brif fynedfa i dref ganoloesol Caernarfon o ochr y tir. Mae gwaith cadwraeth ar y porthdy ar y gweill ac mae wedi bod ar gau ers tro i’r cyhoedd, ond mae Drysau Agored yn gyfle prin i edrych ar y tu mewn. Bydd Porth Mawr ar agor rhwng 10 a 4pm ar 12 ac 13 Medi.

I weld y rhestr gyflawn o safleoedd sy’n cymryd rhan (a’r dyddiadau a’r amseroedd agor) a’r diweddaraf ar raglen Drysau Agored 2009, ewch i wefan Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru.

28 Awst 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Cadw Yr amgylchedd hanesyddol

Tagiau

Twristiaeth 28 Awst 2009 Yr economi Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i