Gwesty’r Cei yw’r busnes cyntaf i gwblhau’r tair elfen o’r rhaglen a bydd yn eu galluogi i arddangos y marc ‘Croeso Cynnes Cymreig’ yn y gwesty. Mae’r tair elfen o’r rhaglen yn cynnwys cwrs sydd wedi’i seilio ar Wasanaeth Cwsmeriaid a dau fodiwl hunanasesu arall.
Mae un modiwl yn canolbwyntio ar wybodaeth a chyfathrebu hanes lleol, bwyd, tirwedd, diwylliant ac iaith i ddatblygu a gwella ymdeimlad o le'r busnes a’r ardal. Mae’r trydydd modiwl yn ymwneud â’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn y busnes. Mae tair lefel i’r modiwl hwn - Mynediad, Canolradd ac Uwch. Ei nod yw sicrhau bod ymwelwyr yn clywed ac yn gweld iaith hynaf Ewrop ar waith, o gyfarchion Cymraeg syml i arddangos arwyddion cwbl ddwyieithog.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen, dywedodd Neil Beech, Rheolwr Cyffredinol Gwesty’r Cei:
“Mae pob elfen o’r hyfforddiant wedi golygu bod gan bob aelod o’r tîm ddealltwriaeth ddyfnach o’n cynnyrch gan sicrhau bod croeso gwir “Gymreig” yn disgwyl ein hymwelwyr a’n gwesteion yng Ngwesty’r Cei a Spa.”
Ar ôl cwblhau’r rhaglen, roedd Katie-Jane Pinker, Rheolwr y Dderbynfa yng Ngwesty’r Cei, yn teimlo ei bod yn fwy hyderus wrth ymdrin â chwsmeriaid ac wrth siarad am yr ardal leol. Dywedodd Katie:
“Gan nad wyf wedi cael fy magu yng Nghymru, roedd rhaglen Croeso Cymru yn ddefnyddiol iawn o ran dysgu sut i gwmpasu popeth Cymreig a dysgu sut i gyfleu blas gwir Gymreig yn ein gweithle ac o amgylch y gweithle.”
Wrth longyfarch Gwesty’r Cei, dywedodd y Gweinidog dros Dreftadaeth:
“Mae’r rhaglen hyfforddi newydd hon yn rhoi hyder, sgiliau a gwybodaeth i’r rhai sy’n gweithio yn ein diwydiant twristiaeth fel eu bod yn gallu rhannu iaith, hanes a diwylliant Cymru gyda’n hymwelwyr, gan roi croeso o’r ansawdd uchaf un sy’n unigryw i Gymru. Mae twristiaeth yn ddiwydiant byd-eang cystadleuol iawn ac yma yng Nghymru, mae’n rhaid i ni bob amser gadw llygad am fentrau sy’n rhoi mantais gystadleuol i ni. Rwy’n annog pob busnes sy’n dod i gysylltiad ag ymwelwyr i ystyried cwblhau rhaglen hyfforddi Croeso Cynnes Cymreig.”
Un ffordd o greu ymdeimlad o le yw sicrhau bod cynnyrch lleol ar y fwydlen. Ar 16 Medi, roedd Gwesty’r Cei hefyd yn cynnal Uwchgynhadledd Bwyd o Ansawdd Gogledd Cymru gyda’r nod o wella proffil cyflenwyr bwyd a diod lleol o ansawdd.
16 Medi 2009











