Cyflwynodd Croeso Cymru, sef adran dwristiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, gais i gynnal y Gwobrau gan lwyddo i guro ceisiadau gan cyrchfannau twristiaeth o bedwar ban byd. Cynhelir y digwyddiad dros bedwar diwrnod a phinacl y digwyddiad fydd y Seremoni Wobrwyo sy’n gyfle unigryw i ni ddangos Cymru i wahoddedigion o’r diwydiant teithio.
Mae 100 o ymwelwyr o’r diwydiant teithio yn aros yng Nghaerdydd a chânt eu croesawu’n swyddogol gan Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth, mewn derbyniad yn y Senedd.
Ar y cyd â’r Guardian, mae Croeso Cymru wedi trefnu rhaglen o ddigwyddiadau a phrofiadau er mwyn sicrhau bod pawb sy’n dod i’r digwyddiad yn cael profiad a blas o Gymru a’r hyn sydd gan ein gwlad ni i’w gynnig fel cyrchfan twristiaeth.
Ddydd Gwener, cafodd y gwahoddedigion y cyfle i grwydro ychydig ymhellach ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau gan gynnwys ymweld â Pharc Margam a Pharc Coedwig Afan; taith i Dalacharn er mwyn darganfod mwy am Dylan Thomas; taith o amgylch y Cymoedd yn blasu gwahanol fwydydd a diwrnod o Golff yng Ngwesty Hamdden y Vale. Ddydd Sadwrn, bydd teithiau tywys o amgylch Caerdydd wedi’u trefnu ar gyfer y gwahoddedigion ac yna gyda’r hwyr, cynhelir y seremoni wobrwyo yng Nghastell Caerdydd a llywyddir y noson gan Huw Edwards.
Dywedodd Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth:
"Rydym yn hapus iawn bod y Guardian wedi dewis cynnal y Gwobrau Teithio yng Nghaerdydd; dyma gadarnhau bod Cymru gystal â’r un gyrchfan yn y byd ac mae’n adeiladu ar yr enw da sydd gennym eisoes, nid yn unig fel lle gwerth chweil i gynnal digwyddiadau, ond fel lle gwerth chweil i ymweld ag ef hefyd.
"Mae twristiaeth yn fusnes mawr yng Nghymru. Bob blwyddyn, mae’n cyfrannu oddeutu £4 biliwn i’r economi a phan mae’r tymor gwyliau ar ei brysuraf, mae’n cyflogi hyd at 100,000 o bobl.
"Rydym am i dwristiaeth wneud hyd yn oed mwy o gyfraniad i economi Cymru ac mae digwyddiadau fel hyn yn rhoi llwyfan inni allu cyflawni hynny. Mae digwyddiadau fel hyn yn herio canfyddiadau ac yn dangos beth sydd gan Gymru i’w gynnig - nid yn unig fel gwlad sy’n parchu ac yn dathlu ein gorffennol, ond hefyd fel gwlad sy’n edrych tua’r dyfodol, gan gynnig lleoliadau a gwasanaethau i’n hymwelwyr sy’n newydd ac yn arloesol. Rwy’n gobeithio y bydd y profiad a gaiff yr ymwelwyr yn creu argraff dda arnynt ac y byddant yn awyddus i weithio gyda ni i gynnwys Cymru yn eu teithiau a’u taflenni gwybodaeth yn y dyfodol."











