Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cestyll Cymru yw Tywysogion Atyniadau Prydain

Cestyll Cymru yw’r atyniad mwyaf poblogaidd ym Mhrydain ymhlith ymwelwyr o dramor, yn ôl adroddiad newydd gan VisitBritain sydd wedi edrych ar yr hyn sy’n denu ymwelwyr o dramor pan fyddan nhw’n dod i Brydain. Daeth i’r amlwg bod cestyll Cymru yn fwy o atyniad na Phalas Buckingham neu siopa yn Harrods.
Dydd Iau 13 Ionawr 2011
Cestyll Cymru yw Tywysogion Atyniadau Prydain
Castell Caernarfon yw un o Gestyll mwyaf adnabyddus Cymru

Rhoddwyd rhestr o 18 o bethau sydd ar gael i’w gwneud ym Mhrydain yn unig i dros 10,000 o ymwelwyr o dramor. Gofynnwyd iddyn nhw ddewis pa rai fyddai orau ganddyn nhw eu gwneud.

Dyma’r tri dewis a ddaeth i’r brig, yn eu trefn: mynd ar daith o gwmpas cestyll Cymru, ymweld â Phalas Buckingham ac aros dros nos mewn castell yn yr Alban.

Mae’r canlyniadau hyn i’w gweld mewn adroddiad newydd o’r enw ‘’the appeal of only-in-Britain activities’’  sydd wedi’i seilio ar ymchwil benodol a gomisiynwyd gan VisitBritain oddi wrth Nation Brands Index 2010. Holodd yr ymchwilwyr oddeutu 10,000 o oedolion o 20 o wledydd ledled byd.

Mae’r casgliadau’n dangos unwaith eto bod hanes a diwylliant yn rhan hanfodol o apêl unigryw Prydain fel cyrchfan gwyliau. Yn nhrefn yr enillwyr, y gweithgareddau mwyaf atyniadol oedd:

  1. Mynd ar daith o gwmpas cestyll Cymru. (34%) 
  2. Cael eich tywys o gwmpas Palas Buckingham (32%).
  3. Treulio noson mewn castell yn yr Alban (29.1%)
  4. Gwylio’r haul yn codi dros Gôr y Cewri (28.9%)
  5. Gwylio un o gêmau pêl droed Uwch Gynghrair Lloegr (19%) a siopa yn Harrods (hefyd19%). Doedd y ddau hyn yn gyfartal yn y pumed safle.

Roedd mynd ar daith o gwmpas cestyll Cymru yn apelio’n gryf ym mron pob marchnad. Roedd y canlyniadau uchaf yn dod o Wlad Pwyl (49%), Rwsia (48%), yr Eidal (46%), a’r Almaen (44%).

Meddai’r Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones:

“Dw i wrth fy modd o glywed bod cestyll Cymru yn gymaint o atyniad i’n hymwelwyr o dramor. Mae ein 641 o gestyll yn adrodd hanes syfrdanol ein gorffennol ac maen nhw’n sefyll yn rhai o’n hardaloedd mwyaf godidog; nid oes rhyfedd eu bod wedi ennill calonnau a dal dychymyg y rheini a gymerodd rhan yn yr arolwg.  

“Mae oddeutu 20% o’n gwariant ar dwristiaeth yn gysylltiedig â phwysigrwydd yr amgylchedd hanesyddol o ran denu ymwelwyr. Dyna pam rydyn ni wedi buddsoddi yn llawer o’n safleoedd hanesyddol pwysig trwy’r prosiect Twristiaeth Treftadaeth sy’n werth £19m, ac sy’n cael cymorth gwerth £8.5m oddi wrth Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Nod y prosiect, a reolir gan Cadw a Croeso Cymru, yw datblygu poblogrwydd ein treftadaeth wych a denu mwy o ymwelwyr i’w gweld. Mae’n bwysig sicrhau ei bod yn hawdd ac yn hwyl ymweld â’r safleoedd hyn a’u bod yn adrodd hanes ein gorffennol wrth yr ymwelwyr.”

Meddai Patricia Yates, Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyfathrebu:

“Mae’r canlyniadau hyn yn dangos pa mor werthfawr yw ein diwylliant a’n treftadaeth o ran denu twristiaid o dramor, a sut mae profiadau sy’n unigryw i Brydain yn denu ymwelwyr o bob rhan o’r byd.

"Yr hyn sy’n amlwg yw mai dewis poblogaidd iawn yw mynd ar daith o gwmpas cestyll Cymru – a hefyd bod y pedwar dewis cyntaf wedi’i lleoli ym mhob rhan o Brydain, sef yng Nghymru, Llundain, yr Alban a Lloegr. Mae hyn i gyd yn cryfhau ein hargyhoeddiad bod gennym atyniadau gwych y byddwn yn gallu ei hysbysebu ochr yn ochr â’r holl hysbysebu a fydd yn digwydd yn sgil y Briodas Frenhinol a’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn 2012. Y gobaith yw y bydd hynny’n arwain at gynnydd parhaol yn nifer yr ymwelwyr ynghyd â budd economaidd a swyddi newydd – a hynny ar draws Prydain gyfan.’’

 

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Twristiaeth 13 Ionawr 2011 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i