Mae Llywodraeth Cymru a Dinas a Sir Abertawe wedi dod i gytundeb gyda Stadiwm Liberty i ailenwi eisteddle’r Gogledd yn eisteddle Croeso ar gyfer gêmau cartref clwb pêl-droed Abertawe a gêmau rygbi’r Gweilch y tymor hwn.
Mae ailenwi’r eisteddle yn rhan o fenter farchnata ehangach er mwyn manteisio i’r eithaf ar ddyrchafiad clwb pêl-droed Abertawe i’r Uwch-Gynghrair. Mae hyn yn cynnwys defnyddio’r eisteddle i hysbysebu visitwales.com a visitswanseabay.com, hysbysebu LED ar ochr y cae, defnyddio cyfleusterau cynadledda a chyfarfod y stadiwm, dolenni hysbysebu gwefannau a mentrau cysylltiadau cyhoeddus. Bydd Croeso Cymru hefyd yn defnyddio darllediadau teledu byw o dîm pêl-droed Abertawe i hyrwyddo Cymru yng ngweddill y DU.
Cyhoeddodd Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, y fenter cyn gêm gartref gyntaf Abertawe yn yr Uwch-Gynghrair yn erbyn Wigan Athletic ddydd Sadwrn (20 Awst).
Dywedodd Mrs Hart:
“Mae llwyddiant Abertawe yn cyrraedd yr Uwch-Gynghrair wedi rhoi cyfle gwych i hyrwyddo Cymru i gynulleidfa fyd-eang. Mae’r Uwch-Gynghrair yn denu mwy o wylwyr nag un fasnachfraint chwaraeon arall. Caiff y gêmau eu gwylio mewn 575 miliwn o gartrefi mewn 211 o wledydd.
“Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod yr holl bobl hyn yn gallu gweld y croeso cynnes sydd yna i bawb yng Nghymru a hybu twristiaeth a chyfleoedd busnes yng Nghymru ledled y byd. I gefnogwyr sy’n dod i’r gêmau, bydd yna gyfle i weld rhannau gorau’r wlad yn eisteddle Croeso.
“Drwy hysbysebu ar sgriniau ochr y cae a Sky ac ESPN, fe ddangoswn ni i’r byd yr hyn sydd gan Abertawe a Chymru i’w gynnig. O brydferthwch arfordir y Gŵyr i’r cyfleoedd busnes yn SA1, fe gymerwn ni bob cyfle i hyrwyddo Abertawe fel lle gwych i ymweld ag ef a gwneud busnes.”
Dywedodd Chris Holley, Arweinydd Cyngor Abertawe:
“Mae’r ffaith bod Abertawe yn yr Uwch-Gynghrair yn gyfle gwych i godi proffil y ddinas ymhlith cynulleidfaoedd newydd yn y DU a dramor.
“Mae Abertawe yn lle prydferth i ymweld ag ef ac rydyn ni’n estyn croeso cynnes i annog cefnogwyr i aros am ychydig ddyddiau ar ôl gêm.”
Dywedodd Brendan Rodgers, rheolwr clwb pêl-droed Abertawe,
“Abertawe yw un o’r dinasoedd mwyaf prydferth dwi wedi bod ynddyn nhw. Mae’n anhygoel.
“Dyna pam roeddwn i mor falch dros bobl Abertawe ein bod ni wedi cael ein dyrchafu. Bydd yn codi proffil eu dinas brydferth ac yn agor llygaid gweddill y byd i’r lle.”
Bydd y fenter yn rhedeg o fis Awst 2011 tan fis Mai 2012 ar gost o ryw £150,000 i gyd.











