1. Pencampwriaethau Snorclo Cors 2011, 28 Awst, Llanwrtyd
Snorclo Cors yw un o ddigwyddiadau chwaraeon mawr Cymru. Bydd nifer fawr o gystadleuwyr anturus yn cystadlu mewn mawnog chwe deg llath am deitl anrhydeddus 'Pencampwr Snorclo Cors y Byd'. Camp dwr mwyaf brwnt y flwyddyn!
2. Gŵyl Harbwr Caerdydd, 27 – 29 Awst, Caerdydd
Cynhelir y digwyddiad teuluol yn rhad ac am ddim hwn ym Mae Caerdydd. Bydd llawer i'w wneud drwy gydol y penwythnos. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae Cerddwyr Adenydd Breitling Wing Walkers, llongau tal, marchnad y cyfandir, cantorion caneuon môr, comediwyr yn cerdded o gwmpas, ffair, cerddoriaeth a Phencampwriaethau Crefft Pysgod Prydain 2011
3. Digwyddiad Canoloesol Castell Rhuddlan, 27 – 29 Awst, Sir Ddinbych
Ar safle ysblennydd Castell Rhuddlan, bydd Cymdeithas Ganoloesol y Plantagenet yn cynnal penwythnos o ddawnsio a difrodi, arddangosiadau cyffrous a phenigamp o gerddoriaeth, saethyddiaeth a rhyfela o’r 1300au.
4. Ffair Haf Bannau Brycheiniog, 27 Awst, Bannau Brycheiniog
Bydd dros 50 o arddangoswyr bwyd a chrefft Cymru yn arddangos eu heitemau crefft bendigedig a'u cynnyrch blasus yng Nghanolfan Ymwelwyr Bannau Brycheiniog. Beth am brynu cinio ac eistedd ym man picnic a gardd y ganolfan ymwelwyr.
5. Gweithgareddau Crefft Ymarferol yng Ngerddi Coetir Colby, 29 Awst, Sir Benfro
Beth am gael diwrnod mas gyda'r teulu yng ngerddi coetir ysblennydd anffurfiol Colby. Mae'r gerddi mewn cwm heddychlon â hanes diwydiannol hynod ddiddorol ac maen nhw'n llawn lliw a bywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn. Bydd y plant wrth eu boddau yn y digwyddiad gwyl banc sy'n cynnig gweithgareddau ymarferol.
Ewch i wefan Croeso Cymru i gael rhagor o syniadau am fwynhau eich hunain dros ŵyl y banc.











