Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gwobrau aur i'r llety gorau

Mae'r gwestai a'r llety gorau yng Nghymru wedi'u henwi heddiw wrth i Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, gyhoeddi rhestr Gwobr Aur Croeso Cymru ar gyfer 2011–12.
Dydd Llun 21 Tachwedd 2011
Y Gweinidog Busnes Edwina Hart tu fas Westy Morgan gyda'r Rheolwr Cyffredinol Christine Owen
Y Gweinidog Busnes Edwina Hart tu fas Westy Morgan gyda'r Rheolwr Cyffredinol Christine Owen 
Mae'r nifer uchaf erioed o fusnesau wedi'u rhestru eleni, gyda 79 o lety gwesteion (31 am y tro cyntaf) a 27 Gwesty (8 am y tro cyntaf). Prif nod y Wobr Aur, sydd wedi cael ei dyfarnu es 2007, yw gwobrwyo safon, cyfforddusrwydd a chroeso neilltuol yn y sector â gwasanaethau yng Nghymru. 

Ymwelodd y Gweinidog Busnes â Gwesty Morgans yn Abertawe, sydd wedi cyrraedd y rhestr eleni. Mae chwaer-westy Morgans, y Cawdor yn Llandeilo hefyd wedi cyrraedd y rhestr o westai ac mae Morgans Townhouse yn Abertawe hefyd wedi ennill Gwobr Aur am Lety Gwesteion. 

Dywedodd Christine Owen, y Rheolwr Cyffredinol, fod y cwmni wrth ei fodd gyda'i lwyddiant diweddar, dywedodd: 

“Yn Morgans, rydym yn ymdrechu i roi profiad arbennig i’n gwesteion, a hynny'r holl ffordd o’r cynnyrch a ddefnyddiwn hyd at ein gwasanaeth. Rydym yn hynod falch bod hyn wedi cael ei gydnabod ac yn cael ei adlewyrchu wrth i ni fod yn llwyddiannus i gael Gwobr Aur Croeso Cymru.

"Fel cwmni Cymreig rydym yn hynod falch o fod yn llysgenhadon dros Gymru ac i osod esiampl o'r hyn y gellir ei gyflawni drwy ymroddiad a gwaith caled. Mae'r Wobr Aur yn gadael i bobl wybod beth y gallant ei ddisgwyl pan fyddant yn ymweld â ni yn Morgans yn Abertawe neu'r Cawdor yn Llandeilo, a gobeithio y gallwn eu plesio tu hwnt i’w disgwyliadau.”

Busnes twristiaeth arall sy'n cael dathliad dwbl y mis hwn yw'r Cross Foxes, ger Dolgellau. Agorwyd drysau'r busnes am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2010 ac mae bellach wedi'i rhestru am ei Wobr Aur gyntaf am Lety i Westeion. 

Dywedodd y perchnogion Nicol a Dewi Gwynne: “Dywedodd y perchnogion Nicol Gwynne a Dewi,: 

"Rydym yn falch iawn gyda pherfformiad flwyddyn gyntaf y Cross Foxes. Rydym wedi dyblu ein rhagamcanion ac wedi derbyn adborth cadarnhaol iawn gan gwsmeriaid. Rydym yn falch o fod wedi ennill y Wobr Aur ac yn edrych ymlaen at barhau i ddatblygu ein cynnyrch er mwyn sicrhau bod ein gwesteion yn derbyn profiad eithriadol o dda o ran bwyd a llety tra  aros gyda ni. "

Llongyfarchodd y Gweinidog yr holl fusnesau am eu llwyddiant, gan ddweud: 
"Er bod cryn botensial i dwristiaeth dyfu, mae'r farchnad fyd-eang mor gystadleuol. Bydd safon yn hollbwysig i lwyddiant diwydiant twristiaeth Cymru yn y dyfodol ac mae'r safleoedd hyn yn gosod meincnod uchel iawn. Maen nhw'n rhagori ar ddisgwyliadau cwsmeriaid ac maen nhw o'r radd flaenaf ym mhob ffordd. Rwy'n dymuno pob lwc iddyn nhw ar gyfer y dyfodol." 
 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Twristiaeth

Tagiau

Twristiaeth 21 Tachwedd 2011 Yr economi Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i