Ysbrydion, gelod, gwenyn, a theithiau arbennig o dan y Tŷ Gwydr Un Haen mwyaf ar y blaned – hyn i gyd a mwy yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ystod hanner tymor eleni.
Gydol yr wythnos, o ddydd Llun, Chwefror 21 tan ddydd Gwener, Chwefror 25, bydd llu o ddigwyddiadau hwyliog i’r teulu yn yr Ardd.
Bydd taith o gwmpas nodweddion hanesyddol yr Ardd yn cynnwys storïau dychrynllyd am ysbrydion a digwyddiadau rhyfedd. Yn Neuadd yr Apothecari, cewch wybod am ddefnydd meddyginiaethol gelod, nid yn unig yn y gorffennol, ond heddiw hefyd. Bydd creu canhwyllau yn un o’r gweithgareddau yn yr Ardd Wenyn - lle cewch chi wybod rhagor am yr hanner miliwn o wenyn sy’n gweithio’n galed yma yn yr Ardd.
Hefyd, bydd yna amrywiaeth eang o deithiau a sgyrsiau, yn cynnwys un o dan y Tŷ Gwydr Enfawr, ble nad oes mynediad i’r cyhoedd fel arfer.
Cewch hefyd gymryd mantais o’r cynnig ar gyfer Cinio Sul – sydd ar gael bob dydd Sul ym mis Chwefror – pryd y cewch fynediad i’r Ardd a chinio Sul dau gwrs am £12.95.
Os ydych chi’n brysur ar ddydd Sul, efallai bod y cynnig ganol wythnos yn fwy at eich dant: sef tocyn mynediad a chwpaned o goffi neu de am ddeg punt.
Sioe Trenau Bach
Amgueddfa Lechi Genedlaethol, Llanberis
24/02/11 tan 27/02/11 10am - 4pm
Ymunwch â digwyddiad mawr y flwyddyn! Trenau mawr, bach, rhai go iawn neu fodelau – mae rhywbeth i bawb – o arbenigwyr i deuluoedd – yn y sioe boblogaidd hon. Ewch am reid ar drên bach, synnu at lond siediau o draciau, a chyfarfod ag UNA y trên stem!
Am ragor o wybodaeth ewch i www.museumwales.ac.uk neu ffoniwch 01286 870630
Marchnad Ffermwyr Aberystwyth
Rhodfa’r Gogledd, Aberystwyth
Dydd Sadwrn 19 Chwefror 10am - 2pm
Cynhelir y farchnad ar y 1af a’r 3ydd Sadwrn o bob mis. Cynhyrchwyr lleol yn gwerthu eu cynnyrch eu hunain, sydd wedi’u tyfu, eu magu neu eu gwneud ganddynt. Fe welwch y llysiau a’r ffrwythau tymhorol yn addurno’r stondinau yn ogystal ag unrhyw gynnyrch arall sydd angen ar gwsmeriaid ar gyfer eu rhestr siopa wythnosol. Am ragor o wybodaeth ewch i www.visitmidwales.co.uk neu ffoniwch 01970 633 066.
Wythnos Genedlaethol Blychau Nythu
Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
19 -25 Chwefror 11.00 - 13.00 & 14.00 - 16.00
Ewch i Amgueddfa Sain Ffagan dros hanner tymor fis Chwefror, a dod i wybod beth allwch chi ei wneud i helpu adar yn eich ardal, gan gynnwys gwneud bwyd, rhoi blychau nythu i fyny a dysgu sut i adnabod adar. Mynediad am ddim. Am ragor o wybodaeth ewch i www.museumwales.ac.uk neu ffonio 02920 573500
Gweithdai Milwr Rhufeinig
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerleon
21 – 25 Chwefror 11am - 4pm
Dewch yma i roi cyfle i’ch milwr bychan flasu bywyd fel milwr Rhufeinig!
O Chwefror 21 i’r 25 (11am-4pm), bydd ymweliad â’r Amgueddfa yn golygu y byddwch yn cael eich recriwtio i’r Fyddin Rufeinig! Ffarweliwch â Mam a Dad am 25 mlynedd i ymuno â’r Lleng Rufeinig. Nid yw bywyd yn hawdd – paratowch i gwblhau eich tasgau!
Hyfforddwch gyda milwyr ar y maes parêd a gwario eich cyflog yn stondin y farchnad. Ond peidiwch â gwario gormod – bydd yn rhaid ichi adael rhywfaint o arian ar ôl yn y gronfa gladdu i gael angladd gweddus!
Trowch eich llaw at weithgareddau fel ymarfer â chleddyf a martsio, a chewch dystysgrif pan fyddwch yn gadael y fyddin.
Peidiwch â cholli’r cyfle i gael blas ar fywyd Rhufeinig yn ystod gwyliau’r hanner tymor! Am ragor o wybodaeth ewch i www.museumwales.ac.uk
Ymladd a Ffermio
Castell Henllys, Sir Benfro
21, 23, 25 Chwefror 11.30 – 14.00
Roedd bywyd mewn castell yn yr Oes Haearn yn anodd. Dewch i ddarganfod drosoch eich hun sut y bu i’r Celtiaid oroesi. Dysgwch sut i adeiladu tŷ crwn, helpu i baratoi’r swper ac, i baratoi ar gyfer ymosodiad, hyfforddi i fod yn ryfelwr. £2.50 y plentyn (5 - 11 oed) + mynediad. Sesiynau am 11.30am & 2.00pm
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01239 891319











