Mae Arolwg Ymwelwyr Cymru yn cael ei gynnal bob dwy flynedd rhwng mis Ebrill a mis Medi. Mae'n darparu gwybodaeth fanwl am ymwelwyr o'r DU a arhosodd dros nos, ymwelwyr undydd ac ymwelwyr o dramor ac asesiad o foddhad pobl â’u hymweliad ar sawl lefel.
Mae arolwg 2011 yn dangos bod yr ymwelwyr o'r DU a arhosodd dros nos wedi rhoi 9.33 (o 10 posibl) i'r amgylchedd naturiol a bod yr ymwelwyr o dramor wedi rhoi 9.22 iddo.
Natur gyfeillgar y bobl oedd yr hyn a sgoriodd uchaf (9.32 o gymharu â 9.10 yn 2009) ymhlith yr ymwelwyr o dramor a'r uchaf ond un ymhlith yr ymwelwyr o'r DU a arhosodd dros nos (9.17 o gymharu ag 8.86 yn 2009).
Mae'r lefel o foddhad cyffredinol â Chymru fel lle i ymweld ag ef yn uchel iawn ar draws pob categori o ymwelwyr. Yr asesiad oedd 9.15, 9.05 ac 8.97 ymhlith ymwelwyr undydd, ymwelwyr o'r DU a arhosodd dros nos ac ymwelwyr o dramor yn y drefn honno.
Wedi bod i Gymru ar wyliau, roedd y tri grŵp yn debygol iawn o argymell y wlad: dywedodd 92% o'r ymwelwyr o'r DU a arhosodd dros nos a'r ymwelwyr undydd a 79% o'r ymwelwyr o dramor y bydden nhw'n bendant yn argymell Cymru i ffrind/perthynas a dywedodd bron i bob un o weddill yr ymatebwyr y bydden nhw'n argymell Cymru yn ôl pob tebyg.
Dywedodd y Gweinidog Busnes, Edwina Hart:
"Mae'r canlyniadau hyn yn dangos adborth cadarnhaol iawn gan ymwelwyr a bod llawer o'r ymwelwyr yn fodlon ar y rhan fwyaf o agweddau ar yr ymweliad. Rydyn ni newydd lansio ein hymgyrch farchnata newydd, ac mae'n braf gweld bod yr hyn sydd gyda ni i'w gynnig yma yng Nghymru yn gwireddu’n haddewid."











