Roedd nifer yr ymwelwyr â’r Ganolfan – heb gyfrif cynulleidfaoedd perfformiadau – yn 1,046,958 yn 2011, cynnydd o 3.1% ar ffigurau 2010.
Yn ôl y ffigurau arolwg blynyddol Ymweliadau ag Atyniadau Twristiaeth yng Nghymru a ryddhawyd LC Abertawe sydd yn yr ail safle, a dyma hefyd yr atyniad â thâl mynediad mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Cafwyd cyfanswm o 708,180 o bobl drwy ddrysau’r LC llynedd, cynnydd o 9.1% ar 2010 pan lwyddwyd i ddenu 649,053 o ymwelwyr.
Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan oedd yn drydydd gan ddenu 610,074 o ymwelwyr, sydd fwy neu lai'r un nifer â 2010.
Mae’r arolwg yn dangos i 15.8miliwn o bobl ymweld llynedd â’r 214 o atyniadau a oedd yn rhan o’r arolwg. Ymweliadau ag atyniadau rhad ac am ddim oedd dros hanner (57%) yr holl ymweliadau.
Dywedodd y Gweinidog Busnes, Edwina Hart:
"Twristiaeth yw un o’n prif sectorau economaidd, sydd werth £4.2biliwn bob blwyddyn i economi Cymru ac mae atyniadau ymwelwyr yn rhan bwysig o’r diwydiant.
"Mae digonedd o atyniadau amrywiol yng Nghymru, gyda sawl un yn adlewyrchu’n diwylliant, hanes, treftadaeth ac amgylchedd naturiol unigryw. Mae miliynau o bobl eu mwynhau bob blwyddyn, ac maen nhw’n darparu adnodd addysgol pwysig ar yr un pryd."
Amgueddfeydd ac orielau celf oedd yr atyniadau mwyaf poblogaidd (5.3m o ymwelwyr) yn cael eu dilyn gan barciau gwledig, gerddi ac atyniadau naturiol eraill (4.9miliwn o ymwelwyr) ac eiddo hanesyddol (2.9miliwn o ymwelwyr).
O blith yr atyniadau a oedd yn darparu manylion pellach am yr ymwelwyr, roedd ychydig yn llai na hanner (48%) eu hymwelwyr yn bobl leol, gyda 44% o weddill y DU ac 8% o dramor. Ymwelwyr tramor oedd bron i 20% o’r ymwelwyr ag eiddo hanesyddol a 14% o’r ymwelwyr ag atyniadau diwydiant a chrefft.
Deg atyniad gorau â thâl
LC, Abertawe – 708,180
Parc Gwledig Penbre -398,115
Parc Antur Folly Farm -374,000
Portmeirion -234,098
Castell Caernarfon – 196,944
Castell Conwy – 178,639
Parc Gwledig Llyn Llech Owain – 178,000
Gerddi Bodnant – 170,929
Erddig – 168,281
Techniquest – 167,849Deg atyniad gorau am ddim
Canolfan Mileniwm Cymru -1,046,958
Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru – 610,074
Amgueddfa Cymru – 411,730
Parc Bellevue, Wrecsam – 384,000
Canolfan Ymwelwyr Bae Caerdydd – 308,625
Prosiect Amgueddfa Caerdydd – 270,000
Eglwys Gadeiriol Tŷ Ddewi – 262,000
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau – 256,471
Canolfan Ymwelwyr Caerdydd – 239,849
Parc Gwledig Margam – 232,693
Gellir cyrraedd at yr Arolwg, a gynhaliwyd gan Beaufort Research, ar wefan Llywodraeth Cymru.











