Dywedodd y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth bydda’r Mesur Trafnidiaeth Dysgwyr yn ehangu trafnidiaeth ysgol am ddim i blant ysgol gynradd, gwella diogelwch a chreu eglurder am ddarpariaeth trafnidiaeth ysgol am ddim yng Nghymru.
Y bwriad yw y bydd prif ddarpariaethau’r Mesur yn dod i rym o fis Medi 2009, ar ddechrau’r flwyddyn academaidd honno.
Dywedodd Mr Jones:
Mae’r Mesur hwn yn gam pwysig ymlaen i ni fel ein bod yn gallu diwallu ein hamcan yn nogfen Cymru’n Un i geisio diogelu rhagor o ddeddfwriaeth yn ymwneud â gwell cludiant i ysgolion.
Ni ddylai teithio rwystro plant a phobl ifanc rhag cymryd rhan mewn addysg. Mae trafnidiaeth effeithlon ac effeithiol yn gallu gwella mynediad at addysg a hefyd, mae’n gallu gostwng tagfeydd traffig. Bydd y Mesur yn egluro’r sefyllfa o ran yr hyn sy’n berthnasol i Gymru yn y maes hwn. Bydd y Mesur yn golygu na fyddwn yn gorfod ymateb i newidiadau ym maes teithio gan ddysgwyr yn Lloegr a byddwn yn gallu creu system teithio gan ddysgwyr sy’n addas i ni yma yng Nghymru.
Nod y Mesur yw mynd i’r afael â materion diogelwch trwy gyflwyno cod Gymru gyfan ar ymddygiad wrth deithio i’r ysgol neu wrth deithio i unrhyw sefydliad arall sy’n ymwneud â dysgu.
Dywedodd Mr Jones:
Er bod llawer o awdurdodau lleol yng Nghymru eisoes yn defnyddio codau ymddygiad er mwyn mynd i’r afael â materion yn ymwneud ag ymddygiad dysgwyr sy’n teithio, mae ein hymgynghoriad eang wedi dangos bod yna bryderon ynghylch y ffaith bod y codau hyn yn amrywio o un ardal i’r llall.
Mae angen inni ddefnyddio’r codau hyn mewn dull cyson ac mae angen i’r cod ymddygiad hwn fod yn berthnasol i bob taith sy’n gysylltiedig â dysgu os yw taith y dysgwr yn cael ei hariannu gan yr awdurdod lleol ai peidio.
Er nad yw’r Mesur yn gallu mynd i’r afael â materion yn ymwneud â rheoliadau ynghylch bysiau, materion fel gwahardd y defnydd o fysiau deulawr a gorfodi gwisgo gwregysau diogelwch, mae Mr Jones wedi cyhoeddi canllawiau ynglŷn â’r materion hyn ac mae wedi ailadrodd y ffaith ei fod yn benderfynol o geisio cael pwerau gan San Steffan fel bod modd rhoi’r materion hyn ar waith yma yng Nghymru. Mae trafodaethau eisoes wedi dechrau gyda Llywodraeth y DU.
Dywedodd:
Ni all y Mesur hwn ymdrin â’r materion hyn gan nad ydynt yn rhan o gymwyseddau deddfwriaethol y Cynulliad. Fodd bynnag, byddaf yn mynd ati i geisio cael rhagor o bwerau i’r maes hwn. Yn y cyfamser, rydym wedi cyhoeddi canllawiau newydd i’r awdurdodau lleol er mwyn eu hannog i ddefnyddio gwregysau diogelwch yn eu cerbydau ac i gynnal gwiriadau ar yrwyr ac i ystyried defnyddio system teledu cylch cyfyng a hebryngwyr ar deithiau gan ddysgwyr. Mae’r canllawiau hefyd yn eu hannog i beidio â defnyddio’r consesiwn lle caniateir i dri pherson eistedd ar sedd a fwriadwyd ar gyfer dau nac i ddefnyddio bysiau deulawr i deithio i’r ysgol ac oddi yno.
Bydd y Mesur yn sicrhau bod disgyblion ysgolion cynradd yn gymwys i gael teithio am ddim - os ydynt yn byw ddwy filltir neu fwy oddi wrth yr ysgol addas agosaf. O dan y ddeddfwriaeth bresennol, mae disgyblion o dan wyth oed yn gallu gwneud cais am drafnidiaeth am ddim os ydynt yn byw ddwy filltir neu fwy oddi wrth yr ysgol addas agosaf ac mae hyn yn codi i dair milltir i blant wyth oed neu hŷn.
Bydd y Mesur hefyd yn rhoi dyletswydd ar yr awdurdodau lleol i hyrwyddo mynediad at Addysg trwy Gyfrwng y Gymraeg ac mae’r Gweinidog wedi ailadrodd y ffaith y bydd yn defnyddio ei bwerau cyfarwyddo i roi’r mater hwn ar waith mewn sefyllfaoedd lle credir nad yw’r awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau.
30 Medi 2008











