Mae’r gwasanaeth newydd rhwng Caergybi a Chaerdydd ac yn ôl i fod yn rhedeg o Fis Rhagfyr 2008 ymlaen, a disgwylir iddo dorri’r amser teithio presennol rhwng gogledd a de Cymru gan 30 munud o leiaf.
Mae Mr Jones, sy’n Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, hefyd wedi cadarnhau cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i wasanaeth rheilffordd newydd bob hanner awr rhwng Merthyr Tudful a Chaerdydd o Fis Mai 2009.
Dywedodd y Gweinidog y bydd y gwasanaeth Gogledd-De newydd yn golygu y byddai modd i bobl deithio rhwng Bangor a Chaerdydd ac yn ôl o fewn pedair awr.
Meddai:
Bydd y gwasanaeth hwn yn gwneud teithio ar y trên rhwng gogledd a de o’n gwlad yn ddewis ymarferol a deniadol i fynd mewn car – wrth ehangu opsiynau, uno’r genedl a rhoi hwb i ddulliau teithio cynaliadwy.
Bydd y gwasanaeth newydd – un o addewidion a wnaed yn rhaglen llywodraeth Cymru’n Un a weithredir gan gwmni Arriva Trains Cymru – hefyd yn cynnig i deithwyr ddewis Ddosbarth Premier, gan roi opsiwn cyflymach, gwyrddach a mwy cyffyrddus na’r car.
I ddechrau bydd y gwasanaeth newydd yn mynd drwy Crewe yn hytrach na Wrecsam, gan nad oes modd i Network Rail ar hyn o bryd gynnig llwybr trên rhwng Caergybi a Chaerdydd drwy Wrecsam gydag amser cyrraedd cyn deg o’r gloch.
Medd y Gweinidog:
Tra fod y gwahaniaeth amser yn fach iawn, dim ond tair munud, cred Llywodraeth y Cynulliad y dylai’r ddolen gyswllt newydd gwasanaethu’r dre fwyaf yn y gogledd, sef Wrecsam.
Rwyf wedi penderfynu cychwyn y gwasanaeth newydd mor fuan ag y bo modd, wrth fynd drwy Crewe yn hytrach nag aros am llwybr trên drwy Wrecsam oherwydd y gallai hynny gymryd peth amser.
Rwy’n pwysleisio bod y gwasanaeth hwn y cyntaf o’i fath – nid yr olaf. Bwriadwn ei gadw dan oruchwyliaeth a chwilio am y cyfle cyntaf posibl i’w ddatblygu ymhellach, gan gynnwys mynd drwy Wrecsam a darparu achos busnes am wasanaeth o’r de i’r gogledd ac yn ôl.
Yn dilyn cyhoeddi Cyllideb Drafft y Cynulliad cadarnhaodd Mr Jones hefyd gefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad i wasanaeth hanner awr rhwng Merthyr a Chaerdydd, a ddisgwylir cychwyn ym Mis Mai’r flwyddyn nesaf.
Mae hyn yn dilyn cwblhau gwaith Fis Mai diwethaf i’r seilwaith a signalau yn Abercynon ac ar lein cangen Merthyr.
Dywedodd Mr Jones:
Dyma newydd ardderchog i Ferthyr – ac i’r miloedd o bobl sy’n defnyddio’r cyswllt rheilffordd pwysig hwn yn ddyddiol.
Mae’r gwasanaeth newydd yn tanlinellu’n cefnogaeth i wasanaethau o’r radd gyntaf i Gymoedd De Cymru, hynny yn unol â’r addewidion a wnaethon ni’r llynedd yn ein rhaglen Cymru’n Un.
Bydd y gwelliant hwn – a gyflwynwyd yn erbyn cefndir o setliad ariannol tyn ac anawsterau economaidd byd-eang – yn dangos y flaenoriaeth a rown i ddyfodol Merthyr a’r Cymoedd.
Oherwydd datganoli mae Merthyr eisoes yn lleoliad un o swyddfeydd allweddol Llywodraeth Cynulliad Cymru, wedi’i hadeiladu i’r safonau ecolegol uchaf.
Golyga’r gwasanaeth newydd ddewisiadau teithio mwy cynaliadwy i bobl Cymru, gan atgyfnerthu’n hymdrechion i wneud cymunedau’r Cymoedd yn lleoliad hyd yn oed yn fwy deniadol i bobl fyw, gweithio a chwarae.
8 Hydref 2008











