Wrth gyhoeddi’r flaenraglen newydd hon ar gyfer ffyrdd a rheilffyrdd, amlinellodd y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros Drafnidiaeth Ieuan Wyn Jones ei gynlluniau ar gyfer symud at system drafnidiaeth fwy integredig i Gymru.
Meddai Mr Jones:
Rydym wedi ymrwymo i gyrraedd y nod sydd yn nogfen Cymru’n Un, sef sicrhau system drafnidiaeth integredig sy’n addas i’r 21ain ganrif, a fydd yn uno ein gwlad yn ogystal â gwireddu ein cynlluniau ar gyfer sicrhau gostyngiad enfawr mewn allyriadau carbon. Mae’r rhaglen hon yn gam sylweddol at gyrraedd y nod.
Am y tro cyntaf, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi llunio blaenraglen ar gyfer y rheilffyrdd, sy’n manteisio’n fwy ar y pwerau a ddarperir gan Ddeddf Rheilffyrdd 2005.
Tan yn ddiweddar, roedd prosiectau ar gyfer seilwaith rheilffyrdd yn cael eu rhoi ar waith trwy ddefnyddio trefniadau’r Grant Trafnidiaeth.
Ond yn sgil mabwysiadu Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol, caiff prosiectau ar gyfer y rheilffyrdd bellach eu cyflawni yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad fel y’u nodir yn Cymru’n Un.
Er enghraifft, bydd y trên cyflym o Gaergybi i Gaerdydd yn dechrau’r mis nesaf er mwyn gwella’r cysylltiadau rhwng y Gogledd a’r De.
Ymhlith yr ymrwymiadau eraill mae cerbydau a gwasanaethau ychwanegol ar reilffyrdd y Cymoedd, yn ogystal â rhoi blaenoriaeth i’r gwaith o ychwanegu gwasanaeth rhwng Glynebwy a Chasnewydd.
Mae swm o hyd at £46 miliwn wedi’i sicrhau heddiw hefyd trwy’r gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol ar gyfer y gwelliannau arfaethedig yn seilwaith y rheilffyrdd rhwng Wrecsam a Chaer, a Thre-gŵyr a Chasllwchwr.
Cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog fod y flaenraglen bresennol ar gyfer cefnffyrdd wedi cael ei newid er mwyn adlewyrchu’r amcanion a geir yn rhaglen lywodraethu Cymru’n Un, sef cysylltu pob cwr o’r wlad.
Mae’r cynlluniau uchel eu statws sydd wedi’u rhaglenni ac sy’n barod i ddechrau cyn 2011 yn cynnwys gwelliannau hanfodol i ffyrdd strategol yr A470 a’r A487 mewn ardaloedd fel Gwynedd, Aberconwy a Phowys a’r A40 yn Sir Benfro.
Mae rhagor o welliannau hanfodol i’r cysylltiadau rhwng y Gogledd a’r De ar y gweill ar gyfer mis Ebrill 2011 a’r nod yw cwblhau’r rhaglen bresennol erbyn tua 2020, yn dibynnu ar gyllid a gweithdrefnau caniatâd statudol.
Mae’r datganiad hefyd yn cynnwys ymrwymiad i gwblhau’r gwaith ym Mlaenau’r Cymoedd yn unol â’r rhaglen erbyn 2020, a hynny’n dibynnu unwaith eto ar gyllid a gweithdrefnau caniatâd statudol.
Meddai’r Dirprwy Brif Weinidog:
Rwy’n awyddus i ddarparu gwell cysylltiadau rhwng canolfannau poblogaeth strategol, gan wella’r modd y caiff cyfleoedd ar gyfer datblygiad economaidd eu dosbarthu. Dydy buddsoddi mewn cysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd ddim yn rhad. Ond am unwaith, mae’r rheilffyrdd hwythau’n cael chwarae teg hefyd.
2 Rhagfyr 2008











