Agorwyd Pont Calzaghe, yng nghanol Trecelyn gan Joe ac Enzo Calzaghe ddoe (Dydd Mercher, 9 Medi).
Bydd y bont yn gwella cysylltiadau i gerddwyr rhwng rhannau ynysig o'r gymuned a chanol y dref, gan ei gwneud yn haws cael swydd, mynd i siopa, a chael gwasanaethau a chyfleusterau hamdden, diwylliannol ac addysgol.
Bydd cyn-bencampwr bocsio diguro y byd a'i dad, yr hyfforddwr sydd wedi ennill gwobrau lu, mewn seremoni agoriadol arbennig ynghyd â Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, a gwesteion arbennig eraill.
"Mae'n anrhydedd i'r bont arbennig hon gael ei henwi ar ein hôl ni ac rwy'n gobeithio y bydd y gymuned yn mwynhau ei defnyddio a'r cysylltiadau newydd y bydd yn eu creu," meddai Joe.
"Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi helpu i drefnu'r diwrnod arbennig hwn," ychwanegodd Enzo.
Mae prosiect Pont Calzaghe wedi cael ei ariannu drwy grantiau trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru o £1.542 miliwn; £800,000 o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF); £707,340 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a £185,000 gan Bartneriaeth Gymunedol Trecelyn.
Bydd yn cynnig mynediad cynaliadwy i Drecelyn i gerddwyr, beicwyr a phobl ag anableddau.
Mae'r bont yn rhan allweddol o Raglen Adfywio Trecelyn, a ariennir gan ERDF, sy'n ceisio ailsefydlu canol y dref fel canolbwynt i weithgarwch economaidd a chymdeithasol, a gwella sylfaen cymdeithasol-economaidd a diwylliannol y dref.
Mae'r agoriad hefyd yn nodi cwblhau y cynllun £1.4 miliwn Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Trecelyn, gan gynnig gwell mynediad i feicwyr, cerddwyr a phobl ag anableddau i gyfleusterau lleol gan gynnwys yr ysgol, y ganolfan hamdden a'r gyfnewidfa rheilffordd/bws.
Mae'n cynnwys isadeiledd arall i ategu'r bont fel llwybrau beicio newydd, cyfleusterau storio beiciau a chroesfan i gerddwyr. Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Phartneriaeth Trecelyn.
Meddai Mr Jones:
"Mae hyn yn rheswm dros ddathlu i Drecelyn a'r cyffiniau. Mae'r dref yn elwa ar gysylltiadau gwell yn y gymuned, ac mae'n cael y cyfle i anrhydeddu un o'r teuluoedd chwaraeon mawr sy'n wir gynrychiolwyr i'r ardal.
"Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n falch o gael cefnogi'r gwaith o adeiladu'r bont newydd hon a phrosiect Llwybrau Diogel yn y Gymuned Trecelyn, a fydd yn cynnig cysylltiadau mwy diogel a hygyrch i'r gymuned gyfan.
"Dyma enghraifft arall o'n hymrwymiad, fel sydd yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, i wella cyfleusterau cerdded a beicio ledled Cymru er mwyn cynnig dewis iach, amgylcheddol yn hytrach na'r car."
Meddai Idris McCarthy, Cadeirydd Partneriaeth Trecelyn,
"Mae'r prosiect hwn wedi bod yn enghraifft ragorol o'r gwaith rhwng Partneriaeth Trecelyn, Ysgol Trecelyn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Capita Symonds a'r gymuned lleol. Mae'r bartneriaeth lwyddiannus hon wedi galluogi'r prosiect hwn i ddwyn ffrwyth a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed dros y blynyddoedd diwethaf i'w wneud yn llwyddiant."
09 Medi 2009











