Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cytundeb newydd yn dod a mwy o “degwch” i’r cynllun teithio rhatach

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cytuno ar system newydd i ad-dalu cwmnïau bysys am y cynllun tocynnau bws am ddim. Bydd hyn yn cynnal lefel y gwasanaeth ar hyd a lled Cymru.
Dydd Mawrth 01 Rhagfyr 2009

Bu Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio gyda CPT Cymru (sef cymdeithas sy’n cynrychioli cwmnïau bysys) ac awdurdodau lleol i gytuno ar y trefniadau newydd a fydd yn cael eu cyflwyno yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Meddai’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth Ieuan Wyn Jones:

"Heb wneud unrhyw newidiadau i’r hawl i gael tocyn bws am ddim, rydym wedi llwyddo i ddatblygu system decach a mwy effeithiol i ad-dalu’r cwmnïau bysys. Ni fydd y cwmnïau bysys yn ennill nag yn colli arian o ganlyniad i’r cytundeb newydd.

"Rwy’n croesawu’r cydweithio fu rhyngom ni â CPT Cymru (sy’n cynrychioli’r diwydiant bysys) a’r awdurdodau lleol i lunio’r cytundeb newydd hwn a fydd yn rhoi’r cynllun tocynnau bws rhatach ar seiliau cadarnach, gan roi gwerth ei arian i’r trethdalwr."

Meddai John Pockett, Cyfarwyddwr Cysylltiadau â’r Llywodraeth yn CPT Cymru:

"Rydym yn falch iawn ein bod wedi dod i gytundeb â’n partneriaid yn Llywodraeth y Cynulliad a’r Awdurdodau Lleol, yn enwedig o ystyried yr anawsterau economaidd presennol."

Gyda chyflwyno’r systemau pasys electronig newydd yn gynharach eleni, bydd yn bosibl monitro’r system lawer yn fwy effeithiol o hyn ymlaen.

O ddefnyddio’r drefn newydd byddwn yn gallu rheoli cyllideb y cynllun tocynnau rhatach yn llymach yn cael ei rheoli’n llymach, gan sicrhau na fydd gorwario ynddi yn y dyfodol.

Bydd y trefniadau newydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2010.

1 Rhagfyr 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Tagiau

Trafnidiaeth 01 Rhagfyr 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i