Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus eang, cyhoeddwyd y byddai’r gwaith bellach yn dechrau ar yr Opsiwn Oren a ffefrir – ffordd osgoi ddeheuol i’r dref i’r de o Ystad Ddiwydiannol Mochdre, gan basio o dan brif linell reilffordd Cambrian i’r dwyrain o Ystad Ddiwydiannol Dyffryn.
Yn ogystal â’r ffordd osgoi – ac i fynd i’r afael â rhagor o dagfeydd traffig yn y dref – cynhelir pecyn o welliannau i drafnidiaeth leol. Bydd y rhain yn cynnwys:
• Gwella mynediad o New Road i’r orsaf reilffordd trwy osod llwybrau troed, goleuadau a chyfleusterau croesi pwrpasol.
• Cyfuniad o lwybr troed / ffordd feicio yn croesi dros neu o dan Reilffordd Cambrian i’r gorllewin o’r dref.
• Cyfuniad o lwybr troed / ffordd feicio yn croesi dros yr Afon Hafren i’r dwyrain o’r dref.
• Cysylltiad â’r briffordd a llidiart fysiau rhwng Lôn Cerddyn a Park Lane.
• Darparu rhagor o gyllid i gwblhau camau ychwanegol i Lwybr Glannau’r Afon y Drenewydd.
Wrth gyhoeddi ei benderfyniad, dywedodd Mr Jones,
“Rwy’n falch iawn o wneud y cyhoeddiad hwn, gan y bydd y gwelliannau hyn yn lliniaru rhwyfaint ar sefyllfa anodd iawn i breswylwyr a busnesau y Drenewydd.
“Bydd y ffordd osgoi hon nid yn unig yn torri amser siwrneau ac yn lleihau damweiniau, ond bydd hefyd yn helpu i hybu datblygiad economaidd y dref.
“Mae hefyd yn werth cofio bod y Drenewydd mewn safle hynod bwysig ar goridorau yr A483 a’r A489 o’r de i’r gogledd ac o’r dwyrain i’r gorllewin, felly mae’r ffordd osgoi hon hefyd yn hollbwysig i Gymru gyfan.”
Y cam nesaf fydd penodi cynghorwyr a chontractwr i gynnal amrywiol arolygon a dyluniadau cychwynnol, gan gynnwys Asesiad Effaith Amgylcheddol.
Yna bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ceisio pwerau statudol i ddechrau gwaith ar y ffordd osgoi newydd.











