Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Buddsoddiad gwerth miliwn o bunnoedd i bont eiconig

Cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones fuddsoddiad gwerth £20 miliwn i wella pont sy’n gyswllt hanfodol i drafnidiaeth rhwng gogledd a de Gwynedd a’r ardal ehangach.
Dydd Iau 25 Tachwedd 2010
Mae’r bont yn strwythur rhestredig gradd II. Mae’n croesi afon Dwyryd, rhwng Penrhyndeudraeth a Llandecwyn ym Meirionnydd, Gwynedd, ac mae mwy na miliwn o gerbydau yn ei defnyddio bob blwyddyn.
Mae’r bont yn strwythur rhestredig gradd II. Mae’n croesi afon Dwyryd, rhwng Penrhyndeudraeth a Llandecwyn ym Meirionnydd, Gwynedd, ac mae mwy na miliwn o gerbydau yn ei defnyddio bob blwyddyn.

Gyda chymorth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, sy’n cynnwys £9 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a £4 miliwn o Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru, bydd Pont Briwet, sy’n 150 mlwydd oed, yn cael ei thrawsnewid yn strwythur mwy modern, diogel a chynaliadwy.

Mae’r bont yn strwythur rhestredig gradd II. Mae’n croesi afon Dwyryd, rhwng Penrhyndeudraeth a Llandecwyn ym Meirionnydd, Gwynedd, ac mae mwy na miliwn o gerbydau yn ei defnyddio bob blwyddyn.

Bydd y buddsoddiad yn caniatáu i Gyngor Gwynedd, mewn partneriaeth â Network Rail, sydd hefyd yn ariannu’r gwaith, i wella’r ffordd a gwella cyfleusterau i’r sawl sy’n teithio mewn car neu ar drên, yn ogystal â beicwyr a cherddwyr. At hynny, bydd y cyswllt ffordd yn rhoi mynediad i lorïau nwyddau trwm a cherbydau’r gwasanaethau brys i ardal wledig Ardudwy. Bydd hynny o fantais i’r economi leol, gan leihau costau, pellteroedd ac amseroedd teithio.  

Wrth gyhoeddi’r arian, dywedodd Ieuan Wyn Jones,

“Mae’r buddsoddiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i adeiladu’r seilwaith priodol i gefnogi pobl, cymunedau a busnesau. Bydd yn annog pobl i wneud mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, bydd yn caniatáu i bobl fanteisio ar fwy o gyfleoedd o ran cyflogaeth ac yn arwain at adfywiad economaidd hirdymor.

Mae ‘Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd’ yn amlinellu ein haddewid i sicrhau bod cysylltiadau da yn bodoli rhwng busnesau a chymunedau â gweddill Cymru a thu hwnt, a bod ganddyn nhw’r cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw lle y maent yn byw ac yn gweithio.”

Yn ôl Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd,

“Mae hwn yn newyddion gwych i ardal Meirionnydd. Gan ddyddio yn ôl i 1860, ni chafodd y Bont Briwet bresennol ei hadeiladu i ymdopi â swm y traffig, na maint y cerbydau, rydyn ni’n gyfarwydd â nhw heddiw.

“Mae adeiladu pont newydd, gwell, yn diogelu dyfodol Rheilffordd Arfordir y Cambria, ac mae o fudd mawr i bobl leol a thwristiaid sy’n ymweld â’r ardal hon. Bydd yn gyswllt hanfodol rhwng gwasanaethau, swyddi ac atyniadau. Mae prosiect Pont Briwet yn rhan annatod o Gynllun Cyflogaeth Meirionnydd a fydd yn cael ei lansio heddiw hefyd.”

Mae’r cyhoeddiad am yr arian hwn yn cyd-fynd â chyfres o arddangosfeydd cyhoeddus a fydd yn rhoi mwy o wybodaeth i gymunedau lleol am y gwaith arfaethedig. Mae disgwyl i’r gwaith gychwyn yn ystod yr hydref 2011.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Rheilffyrdd

Tagiau

Trafnidiaeth 25 Tachwedd 2010 Y Gogledd
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i