Heddiw (2 Rhagfyr) yn Llanelli, wrth lansio ymgyrch ar y cyd Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Heddlu i annog pobl i beidio ag yfed a gyrru, bydd y prif siaradwyr, gan gynnwys y cyn chwaraewr rhyngwladol, Rupert Moon, yn addo gweithio gyda’i gilydd i ddarbwyllo pobl i beidio ag yfed a gyrru dros gyfnod y Nadolig ac ar ôl hynny.
Wrth groesawu’r ymgyrch eleni, meddai Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones,
“Ers blynyddoedd lawer dw i wedi cefnogi ymgyrch heddluoedd Cymru i newid agweddau pobl a lleihau nifer y marwolaethau cysylltiedig ag alcohol sy’n digwydd ar ein ffyrdd. Dw i’n hynod o falch o’r gwaith sydd wedi’i wneud hyd yn hyn.
"Rydyn ni eisoes wedi cyflawni llawer ac yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i wneud ffyrdd Cymru yn fwy diogel. Serch hynny, y gwirionedd yw na allwn ni gyflawni hynny ar ein pennau ein hunain. Rhaid i bobl Cymru helpu hefyd os ydyn ni am lwyddo. Dw i’n annog pawb i chwarae eu rhan. Mae’r lleiafrif bach sy’n parhau i anwybyddu’r gyfraith yn rhoi nid yn unig eu bywydau eu hunain mewn perygl ond hefyd bywydau pobl eraill."
Bydd yr ymgyrch eleni yn tynnu sylw gyrwyr at y ffaith bod hyd yn oed un ddiod yn ormod. Mae’r neges yn glir: os ydych chi’n bwriadu mynd allan am y noson dros y Nadolig, beth am drefnu tacsi neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ar y dydd ei hunan a hefyd y diwrnod wedyn.
Meddai Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Dyfed Powys, sy’n cynnal y lansiad eleni ym Mharc y Scarlets,
“Rydyn ni am atgoffa gyrwyr y gallai fod gormod o alcohol yn eu gwaed trwy gydol y diwrnod wedyn hefyd, gan ddibynnu ar faint o alcohol y maen nhw wedi’i yfed. Os yw llys yn eich cael yn euog o yfed a gyrru, gallai hynny ddifetha’ch bywyd, ac arwain at gyfnod yn y carchar neu euogfarn troseddol yn eich erbyn.”
Bydd yr ymgyrch hysbysebu genedlaethol yn atgoffa gyrwyr bod hyd yn oed un neu ddau o ddiodydd yn gallu effeithio ar eu gallu i farnu neu i ymateb. Os ydych chi’n gyrru pan fydd gormod o alcohol yn eich gwaed, gallech chi gael dirwy drom, colli’ch trwydded, ac efallai hyd yn oed eich bywyd. Gallech hefyd ladd rhywun arall.
Dros y pedair wythnos nesaf, bydd miloedd o yrwyr yn cael eu stopio wrth i dimau o heddluoedd y Gogledd, y De, Dyfed Powys a Gwent gynnal profion mewn gwahanol leoedd ledled y wlad.
Meddai’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Nick Ingram,
“Y llynedd, heddluoedd Cymru oedd yn gyfrifol am gynnal bron i chwarter o’r holl brofion anadl a gynhaliwyd yng Nghymru a Lloegr. Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel, ac rydyn ni’n gofyn i’r cyhoedd ein helpu i gyflawni hynny.”











