Cafodd y cynllun trafnidiaeth gwerth £3m ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Cyngor Rhondda Cynon Taf fu’n gyfrifol am ei weithredu.
Meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones,
“Mae’n wych bod y prosiect hwn wedi’i gwblhau’n gynnar ac am lai o arian nag a neilltuwyd ar ei gyfer. Mae lle i 160 o geir barcio am ddim, bydd hyn yn annog pobl leol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gan helpu’r amgylchedd ac lleihau’r tagfeydd ar ein ffyrdd.”
Meddai’r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones,
“Dwi’n falch iawn ein bod yn gallu agor y cyfleuster gwych hwn a ddaw â manteision i bobl Abercynon a Chwm Cynon. Bydd yn helpu i gadw ceir oddi ar ein ffyrdd prysur, gan leihau allyriadau carbon, a bydd yn cyfrannu at adfywio’r ardal yn economaidd. Mae’r bobl leol yn llawn haeddu’r cyfleuster hwn, ac rydyn ni’n falch o’r ffaith ein bod yn gallu parhau i fuddsoddi yng nghymunedau’r cymoedd, hyd yn oed yn yr hinsawdd economaidd anodd sydd ohoni.”
Mae’r cynllun hwn yn darparu cyfleuster parcio modern a diogel gydag isffordd yn arwain yn uniongyrchol at Orsaf Drenau Abercynon. Cafodd yr orsaf ei hailadeiladu a’i moderneiddio’n llwyr yn 2008 o dan un o becynnau ariannu WEFO Llywodraeth Cynulliad Cymru a oedd yn werth dros 20 miliwn. Roedd y gwelliannau i’r orsaf, y trac a’r signalau yn golygu bod trenau wedi dechrau rhedeg bob hanner awr i Ferthyr yn 2009. Bydd y gwelliannau hyn a’r cyfleuster parcio a theithio newydd yn helpu llif y traffig ar y ffordd trwy annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae lle i oddeutu 160 o geir (gan gynnwys 11 o leoedd parcio i bobl anabl yn unig). Mae’r safle wedi’i oleuo’n llawn a gosodwyd teledu cylch cyfyng sy’n helpu i’w wneud yn lle diogel i barcio. Mae pont newydd gyda llwybrau palmantog bob ochr yn arwain i Barc Busnes Navigation; ac adnewyddwyd isffordd sy’n mynd yn uniongyrchol i Orsaf Abercynon.











